Her dathlu'r Pasg Iddewig ynghanol y coronafeirws

Teulu Abrams, Jacob, 5, Isabel, 7, Danielle a Nathan Image copyright Athro Nathan Abrams
Image caption Y teulu Abrams - Jacob, 5, Isabel, 7, Danielle a Nathan

Mae Iddewon yng Nghymru yn paratoi i ddathlu'r Pasg Iddewig heb eu teuluoedd a heb eu bwyd arferol yn sgil rheolau cymdeithasu newydd y llywodraeth.

Mae'r ŵyl yn dechrau yr wythnos nesaf, ond yn ôl rhai o Iddewon Cymru mae'n anoddach nag arfer i gael cynhwysion ar gyfer pryd dathlu'r Seder traddodiadol.

"On i isho mynd i Lundain i ddathlu Pesach efo'r teulu ond 'dwy ddim yn gallu mynd rŵan yn amlwg," medd yr Athro Nathan Abrams, sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor.

"On i isho mynd i ddathlu gyda fy mam yn enwedig gan taw dyma'r Pesach cyntaf wedi i 'nhad farw."

Bwyd yn bwysig

Oherwydd y cyfyngiadau llym ar deithio, bydd yn treulio'r ŵyl gyda'i wraig a'i ddau o blant yn unig,

"Bydd yn iawn y pedwar ohonon ni, ond fydd o ddim yr un peth," meddai.

Gan fod bwyd "yn bwysig iawn i Iddewon - yn enwedig bwyd mam!" mae prinder nwyddau yn y siopau'n gofyn am gryn ymdrech i gael y bwyd arbennig ar gyfer dathliadau'r Pesach.

Mae'r sefyllfa'n ymdebygu i "crowdsourcing", medd yr Athro Abrams.

Mae wedi cael trafferth yn dod o hyd i gynhwysion fel rhuddygl poeth(horseradish), bwyd kosher a gwin kosher arbennig y Pesach.

"Nes i gael matzah [bara croyw] drwy'r post o Langefni drwy ffrind ar trydar. Na'th o archebu o Fanceinion a'i anfon o ata'i drwy'r post."

Image copyright Athro Nathan Abrams
Image caption Bwyd traddodiadol Seder

Yn wreiddiol o ardal Muswell Hill yn Llundain, mae Nathan Abrams yn dweud taw dim ond llond llaw o Iddewon sydd yng ngogledd Cymru, ac mae nifer o'r rheiny'n fyfyrwyr o America.

Mae'n disgrifio ei hun fel Iddew seciwlar, ond yn pwysleisio mor bwysig yw'r gwyliau Iddewig i addysgu ei blant am draddodiadau'r Iddewon.

"Dwisho bo nhw'n gwybod rhywbeth am ein diwylliant a'i hanes. Dwi wedi dysgu cân iddyn nhw i ganu, a dwi wedi bod yn coginio lot efo'r plant fel ysgol adre."

Mae synagog yn Llundain wedi addo anfon bocs bwyd ato gyda bwyd a nwyddau i'w helpu i ddathlu.

"'Swn i'n hoffi creu pryd o fwyd virtual efo'r teulu yn Llundain i ni gael dathlu efo'n gilydd, ond mae Mam yn 80 a ddim yn gyfforddus efo technoleg.

"Dwy ddim yn gwybod sut bydd hi'n dod mlaen efo virtual seder ond gewn ni weld!

Yn y cyfamser, mae'r Athro Abrams wedi dysgu sut i goginio falafel a challa - math o fara tebyg i brioche sy'n cael ei blethu.

Mae ei blant, Isabel a Jacob, hefyd wedi'i helpu i baratoi cacennau bach di-flawd sef pyramidau cnau coco.

Image copyright Nathan Abrams
Image caption Pedwar yn unig fydd yn nathliadau Pesach y teulu Abrams eleni

Yn ôl Dr Cai Parry-Jones, awdur y gyfrol The Jews in Wales, mae'n bosib y bydd llawer o Iddewon Cymru'n gorfod paratoi mwy o fwyd eu hunain er mwyn dathlu eleni.

"Dwi'n dychmygu bydd rhaid i deuluoedd Iddewig fod yn bach mwy hyblyg a chreadigol y flwyddyn hon," meddai.

"Un enghraifft efallai bydd creu Matzo adre yn hytrach na phrynu gan gyflenwr bwyd."

Gobaith Nathan Abrams yw y bydd modd i Iddewon rannu adnoddau yn y dyfodol wedi i argyfwng y coronafeirws ddod i ben.

"Be 'dwi isho ar ôl i'r coronafeirws ddod i ben bod y DIY bocsys yn parhau.

'Da ni yn hunan ynysu ar hyn o bryd, ond 'dan ni yn Iddewon ynysig yma ym Mangor beth bynnag a baswn i wrth fy modd i'r DIY kits barhau drwy'r flwyddyn i gadw'r traddodiad i fynd a dysgu'r plant."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol