Rhybudd i beidio mynd i fynwentydd ar Sul y Blodau

Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
ffynhonnell y llun, AlUN LENNY
disgrifiad o’r llunMynwent capel Bwlch-y-corn ger Caerfyrddin y llynedd

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi atgoffa addolwyr na ddylen nhw ymweld â mynwentydd ar Sul y Blodau, y Sul hwn, gan nad yw hi'n "gyfnod arferol."

Mewn neges ar y we mae'r Undeb, sy'n cynnwys tua 400 o gapeli ledled Cymru, yn sôn am bwysigrwydd y traddodiad o deithio i fynwentydd er mwyn gosod blodau a "chadw'r cof am ein hanwyliaid yn fyw" ond yn pwysleisio na ddylid gwneud hyn eleni.

Dywedodd y Parchedig Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg: "Yn y dyddiau rhyfedd hyn, yr ydym ni'n ysu i wneud pethau sy'n ein hatgoffa ni o normalrwydd ond fedrwn ni ddim peryglu'n hiechyd ni nac iechyd pobl eraill.

"Ddaw dim da o deithio i dalu gwrogaeth i'r meirw. Felly, eleni, peidiwch â mynd i'r fynwent yn ôl eich harfer - arhoswch adref.

"Cynheuwch gannwyll, mynnwch foment dawel i gofio am y bobl a fu'n rhan o'ch bywyd chi ar y ddaear hon unwaith ac sy'n parhau i fod yn annwyl i chi o hyd.

"Basen nhw'n deall y rheswm dros gadw draw. Roedden nhw yn eich caru chi a bydden nhw am i chi fod yn ddiogel."

disgrifiad o’r llunY Parchedig Beti Wyn James: 'Teuluoedd wedi bod yn dda iawn'

Dywedodd y Parchedig Beti Wyn James o Gaerfyrddin fod y cyfnod presennol yn eithriadol o anodd i bobl sydd newydd golli eu hanwyliaid.

"Mae hi wedi bod yn chwithig tu hwnt, rwy' wedi gorfod trefnu angladdau dros y ffôn yn hytrach na wyneb yn wyneb, ac mae'r angladdau wedi cael eu cyfyngu i'r teulu yn unig.

Trefnu angladdau dros y ffôn yn 'chwithig'

"Ond o fy mhrofiad personol mae'n rhaid dweud fod pobl wedi bod yn dda iawn a deall y sefyllfa, yn gwerthfawrogi ein bod yn gallu cynnal yr angladd o gwbl.

"Mae rhai yn dweud y byddant yn trefnu gwasanaeth coffa yn y dyfodol, pan fydd pethau yn wahanol,

"Mae wedi newid y ffordd yr wyf yn gweithio, rwy' wedi gorfod bod yn fwy dyfeisgar a chreadigol ond er bod drws y capel, yr adeilad ar glo mae cymuned yr eglwys yn dal i fod gyda ni, diolch yn rhannol i'r dechnoleg newydd," meddai.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol