Canslo Eisteddfod 1914 a'r gyfrinach a gadwyd dan glo

Published
Pynciau Cysylltiedig
image copyrightEisteddfod Genedlaethol
image captionSeremoni Gyhoeddi Eisteddfod Bangor yn 1913, cyn bod unrhyw sôn am ryfel

"Fuodd rhaid iddyn nhw gloi y cyfansoddiadau a'r beirniadaethau i gyd mewn banc ym Mangor am flwyddyn a chafodd neb gyffwrdd ynddyn nhw."

Roedd y cyhoeddiad wedi dod ar y munud olaf fod Eisteddfod 1914 yn cael ei gohirio am flwyddyn - ddyddiau ar ôl i Brydain fynd i ryfel ar 4 Awst ac wythnosau yn unig cyn roedd hi i fod i gael ei chynnal ddechrau Medi.

Dyma'r tro diwethaf i'r Brifwyl gael ei gohirio tan i argyfwng y coronafeirws ei chanslo eto dros ganrif yn ddiweddarach.

Ddiwedd fis Mawrth 2020 cyhoeddwyd bod Eisteddfod Tregaron wedi ei gohirio tan Awst 2021.

Ond roedd y sefyllfa yn wahanol yn 1914: roedd popeth yn ei le, y cyfansoddiadau i gyd wedi eu pwyso a'u mesur gan y beirniaid, yr enillwyr wedi eu dewis, y pafiliwn yn barod, a dim ond wythnosau i fynd pan ddaeth y cyhoeddiad.

"Roedd y dyddiad cau wedi bod a ddaru nhw ddim canslo'r Steddfod tan yn hwyr iawn - tua canol Awst. Felly roedd y beirniadaethau i gyd wedi cyrraedd hefyd," eglura Gwenllian Carr, Pennaeth Cyfathrebu'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Fuodd rhaid iddyn nhw gloi y cyfansoddiadau a'r beirniadaethau i gyd mewn banc ym Mangor am flwyddyn. A chafodd neb gyffwrdd ynddyn nhw am y flwyddyn yna.

"Dim ond y beirniaid oedd yn gwybod a oedd 'na enillydd mewn cystadleuaeth neu beidio.

"Diolch byth am ffugenwau neu fyddai 'na ddim cyfrinach wedi bod! Dydi'r beirniaid byth yn gwybod pwy sydd wedi ennill ond yn 1914 roedden nhw'n gwybod os oedd 'na deilyngdod neu beidio."

image captionEnw T H Parry-Willliams a gadwyd yn gyfrinach mewn banc ym Mangor fel enillydd y Goron a'r Gadair yn 1914/1915

Fis Awst 1914, felly, gyda'r Rhyfel Byd Cyntaf wedi torri a byddin Prydain newydd ymuno â'r brwydro ar gyfandir Ewrop, roedd un o drefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wrthi'n cyflawni gorchwyl bwysig ym Mangor - mynd â'r amlen oedd yn dal y wybodaeth gyfrinachol am enillydd y Gadair a'r Goron y flwyddyn honno i'r banc i'w chadw dan glo tan y flwyddyn nesaf.

Fyddai beirniaid 1914 na neb arall wedi gwybod mai'r enw oedd yn llechu tu ôl i'r ffugenw buddugol yn y ddwy gystadleuaeth yn y banc oedd un o feirdd amlycaf Cymru, T H Parry-Williams, a oedd wedi gwneud hanes eisteddfodol drwy ennill y dwbl - y Gadair a'r Goron - am yr ail waith.

Dilyn patrwm 1914

"Mewn ffordd rydan ni wedi dilyn patrwm 1914, oherwydd dydi'r Eisteddfod ddim wedi cael ei gohirio o'r blaen [ers hynny]," meddai Gwenllian Carr am y penderfyniad i ohirio Eisteddfod Tregaron 2020 tan 2021.

Yn ffodus roedd Gwenllian wedi ymchwilio i hanes eisteddfod ohiriedig 1914 yn barod, ond ychydig a feddyliai ar y pryd y byddai'r ymchwil hwnnw o ddefnydd mor fuan.

"Adeg canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf mi wnes i wneud dipyn go lew o waith ar eisteddfodau yn ystod y rhyfel felly drwy'r gwaith ymchwil yna rydan ni wedi ffeindio allan beth ddigwyddodd.

image copyrightEisteddfod Genedlaethol
image captionRhestr Testunau yr Eisteddfod oedd i fod i gael ei chynnal ym Mangor yn 1914

"Dwi'n meddwl fod pawb yn meddwl mod i'n ddiflas iawn yn siarad am hen eisteddfodau fel rheol, ond mae wedi bod o ddefnydd y tro yma!

"Dyma ddigwyddodd yn 1914 ac mi weithiodd o bryd hynny! Does 'na ddim rheswm iddo beidio gweithio y tro yma."

Dan glo - ond dim cyfrinach

Mae cyfrinachedd cystadlaethau'r Eisteddfod yn dal i fod yn hollbwysig i'r ŵyl ac mae dyddiad cau y cystadleuaethau cyfansoddi ar gyfer Eisteddfod Tregaron newydd fod - ddyddiau yn unig ar ôl y cyhoeddiad i ohirio - ac felly bydd cystadleuwyr 2020 hefyd yn gorfod aros am flwyddyn nes y cawn nhw wybod sut hwyl maen nhw wedi ei gael.

Bydd y cyfansoddiadau yn cael eu cadw'n saff dan glo tan Ebrill 2021, er nad mewn banc y tro yma (neu "ariandy" fel roedd yn cael ei alw yn 1914).

Ond, yn wahanol i 1914 fydd dim rhaid poeni am gadw cyfrinach, meddai Gwenllian.

"Fydd beirniaid y rhan fwyaf o'r cystadlaethau cyfansoddi ddim yn gallu dechrau ar eu gwaith am flwyddyn, gan fod y trefnwyr wedi penderfynu peidio â chychwyn ar y rhan yna o'r broses tan fis Ebrill nesaf," meddai.

"Felly mewn ffordd mae'r gyfrinach yn haws i'w chadw eleni - does 'na ddim cyfrinach mewn gwirionedd, achos dydan ni ddim yn gwybod eto".

Yn y diwedd, fe gafodd Eisteddfod Bangor ei chynnal ar dir y Brifysgol yn 1915 a chafodd y gyfrinach ei datgelu o'r diwedd pan gyhoeddwyd enw T H Parry-Williams o'r llwyfan.

Mae ymchwil Alan Llwyd yn yr adnodd ar-lein Canrif o Brifwyl hefyd yn dangos mai dim ond pedwar wnaeth gystadlu am y Gadair yn 1914, ac un o'r rheiny oedd Hedd Wyn, a gafodd feirniadaeth anffafriol, yn enwedig gan John Morris-Jones.

Y flwyddyn ganlynol, yn Eisteddfod Aberystwyth, fe ddaeth Hedd Wyn yn ail.

Ac yna yn 1917 wrth gwrs, yn Eisteddfod Penbedw, daeth Hedd Wyn i'r brig ac yntau wedi ei ladd ym Mrwydr Cefn Pilkem ddim ond bum wythnos cyn seremoni'r cadeirio.

"Mae 'na rai wedi cwestiynau pe bai Hedd Wyn wedi ennill yn 1916 tybed fydde fo ddim wedi mynd i ryfel?" meddai Gwenllian Carr.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig