Dyn yn gwadu llofruddio ei wraig ar ddydd Nadolig

Published
image copyrightWales News Live
image captionThomas Bryan (dde) yn cyrraedd Llys Ynadon Llandudno ar gyfer gwrandwiad blaenorol

Mae dyn 76 oed wedi gwadu llofruddio ei wraig yng Ngwynedd ar ddydd Nadolig y llynedd.

Bu farw Vivienne Bryan, 74, mewn byngalo yn Rhodfa Francis yn Fairbourne ar 25 Rhagfyr er gwaethaf ymdrechion parafeddygon i'w hadfywio.

Cafodd Thomas Bryan ei gadw yn y ddalfa wedi iddo ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun trwy gyswllt fideo o Garchar Berwyn.

Mae 22 Mehefin wedi ei bennu am y tro ar gyfer dechrau'r achos yn Llys Y Goron Caernarfon.

Straeon perthnasol