Ymchwiliad i ddwy farwolaeth sydyn yn Abergwili

Cyhoeddwyd
Stryd Fawr, AbergwiliFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo ar Stryd Fawr Aberwili yn gynnar nos Iau

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliad wedi marwolaeth sydyn dyn a menyw mewn eiddo yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo ar Stryd Fawr Abergwili ychydig ar ôl 18:00 ddydd Iau.

Dywed y llu eu bod yn trin y marwolaethau fel rhai heb esboniad ar hyn o bryd, ac nid oes cysylltiad rhwng y marwolaethau a coronafeirws.

Mae perthnasau'r ddau berson a'r crwner wedi cael gwybod am y marwolaethau.