O flaen gofid

O gychwyn cyntaf yr argyfwng presennol mae llywodraethau'r Deyrnas Unedig wedi mabwysiadu'r strategaeth sy'n cael ei disgrifio fel y "four nations approach" sef bod yr ymateb i'r sefyllfa mor unffurf ac sy'n bosib ar draws y deyrnas ac yn cael ei lunio ar y cyd rhwng y pedair llywodraeth.

Nawr mae hynny'n gwneud synnwyr perffaith. Meddyliwch beth fyddai wedi digwydd pe bai Cymru, er enghraifft, wedi ceisio cyfyngu ar symudiadau ei dinasyddion cyn i Loegr wneud hynny. Beth fyddai disgwyl i rywun oedd yn byw ym Magwyr ond yn gweithio ym Mryste wneud yn y fath sefyllfa neu rywun o Gaer oedd a'i swydd ar lannau Dyfrdwy?

Mae'r un sefyllfa'n bodoli mewn gwledydd ffederal a lled ffederal eraill. Yn Awstralia, er enghraifft, sefydlwyd 'cabinet cenedlaethol' am y tro cyntaf yn hanes y wlad, cabinet sy'n cynnwys gweinidogion o'r lefelau ffederal a thaleithiol.

Ond dyw cydlynu felly ddim yn rhwystro llywodraethau unigol rhag gweithredu'n annibynnol os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Mae rhai o daleithiau Awstralia, er enghraifft, wedi cau ei ffiniau gyda gweddill y wlad gyda phrif weinidog Gorllewin Awstralia yn mynd mor bell â dweud hyn:

"In effect, we will be turning Western Australia into an island within an island. Our own country."

Nawr, hyd y gwn i, does neb wedi galw am gau'r ffin rhwng Cymru a Lloegr ond mae angen gweld datganiad Mark Drakeford fod y cyfyngiadau ar symud yng Nghymru yn mynd i barhau doed a ddelo wythnos nesaf yng nghyd-destun y ffin honno.

Mae'n ystadegyn bach difyr bod 29% o gyfanswm poblogaeth Cymru a Lloegr yn byw o fewn hanner can milltir i'r ffin rhwng y ddwy wlad. Mae Cymru yn ardd gefn i sawl un yn Lerpwl, Bryste neu Birmingham neu felly maen nhw'n ei gweld hi.

Nid at bobl Cymru yr oedd cyhoeddiad Mr Drakeford wedi ei anelu ond at ein cyfeillion y tu hwnt i'r clawdd a hynny ar drothwy'r Pasg.

Trwy gyhoeddi'r penderfyniad cyn i'r llywodraethau eraill wneud hynny, derbyniodd neges syml sylw ar y cyfryngau Prydeinig. Mae Cymru ar gau i ymwelwyr ar un o benwythnosau prysuraf ein diwydiant twristiaeth ac mae Llywodraeth Cymru am i bawb wybod hynny.