Oriel luniau: Amserlen coronafeirws yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi bod yn gyfnod cythryblus yng Nghymru ers i'r achos cyntaf o coronafeirws gyrraedd yma ar 28 Chwefror.
Mae'r sefyllfa yn newid yn ddyddiol, gyda rheolau mewn lle bellach i atal pobl rhag gadael eu cartrefi os nad oes wir angen.
Dyma rywfaint o luniau'r digwyddiadau dros y pythefnos diwethaf.
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Ar 13 Mawrth cafodd y gêm rhwng Cymru Dan 20 a'r Alban ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig yn Stadiwm Zip World, Bae Colwyn.
Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Cefnogwr rygbi o'r Alban yn sefyll mewn siom tu allan i'r Stadiwm Principality. Cafodd y gêm rhwng y ddwy wlad, ar benwythnos olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar 14 Mawrth, ei ohirio. Cafodd y penderfyniad i ohirio'r gêm ei wneud diwrnod cyn y gêm.
Ffynhonnell y llun, Mike Lewis Photography
Er gwaetha gohirio'r rygbi, aeth cyngherddau'r Stereophonics yn y Motorpoint Arena yn eu blaen ar 14 a 15 Mawrth.
Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Gyda'r newyddion bod y feirws yn lledaenu aeth bobl i'r siopau i brynu nwyddau, gan ffurfio ciwiau enfawr mewn rhai achosion.
Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
O ganlyniad i'r prysurdeb yn y siopa roedd rhai nwyddau fel papur toilet a pasta yn brin iawn.
Ffynhonnell y llun, Snowdonia National Park Authority
Heidiodd miloedd o bobl i gefn gwlad Cymru, llawer i'w tai haf yng ngogledd a gorllewin Cymru.
Ffynhonnell y llun, PAUL ELLIS
Roedd llawer yn pryderu y byddai ymwelwyr yn dod â'r feirws i Gymru, ac yn rhoi pwysau difrifol ar y gwasanaeth iechyd.
Daeth y gorchymyn i gau llefydd cyhoeddus fel parciau, yn ogystal â mannau twristiaeth.
Y fynedfa i faes parcio Llyn Tegid wedi ei gau.
Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Yr olygfa tu allan i'r Orsaf Ganolog Caerdydd wrth i'r rheolau llym am hunan-ynysu gael eu cyflwyno.
Ffynhonnell y llun, Polly Thomas
Ardal o Gaerdydd sydd fel arfer yn brysur gyda phobl yn siopa.
Ffynhonnell y llun, Polly Thomas
Dyma 'rush hour' ar draffordd yr M4, 20 Mawrth.
Arferion ciwio yn newid; dyma gwsmeriad ar y Maes yng Nghaernarfon yn aros i fynd fewn i fferyllfa.
Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Ciw mewn caffi ym Mhenarth ar ddydd Sul, 22 Mawrth
Ffynhonnell y llun, Polly Thomas
Heol y Santes Fair yng Nghaerdydd yn gwbl wag ar ddiwrnod braf o wanwyn.
Roedd hi'n dawel hefyd yng nghanol tref Wrecsam.
Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Doedd pobl methu mynd i fwynhau yr heulwen yn Ynys y Barri.
Hefyd o ddiddordeb: