Y pryder sy'n wynebu menywod beichiog yn sgil y feirws

Elin Edwards Image copyright Elin Edwards
Image caption Mae Elin Edwards yn poeni a fydd gwasanaethau iechyd yn gallu ymdopi

Mae'r pandemig yn achosi llawer o bobl i deimlo'n gaeth i'w cartrefi, gan gynnwys menywod beichiog.

Nid yn unig maen nhw wedi'u hynysu rhag cymorth cynenedigol ond o'u hanwyliaid hefyd.

Dywed Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru "y bydd angen i wasanaethau newid" gan fod "y gwasanaeth dan straen".

Mae Elin Edwards, 35, o Gaerdydd, yn disgwyl ei babi cyntaf ym mis Mehefin.

Dywedodd ei bod hi'n ei gweld hi'n anodd iawn i fod i ffwrdd o ffrindiau a theulu.

"Mae 'na deimlad rhyfedd y byddwch chi'n colli allan nawr ar y cam cyffrous hwnnw," meddai Mrs Edwards.

"Dydych chi ddim chwaith yn gwybod beth fydd y system gofal iechyd yn ymdopi ag ef o wythnos i wythnos a sut mae hynny'n effeithio ar famolaeth."

'Methu dathlu'

Roedd Lucy, sy'n 24 oed ac o Abertawe, wedi paratoi ar gyfer rhoi genedigaeth am y tro cyntaf ym mis Mai.

Roedd hi am fynd i ddosbarthiadau cynenedigol, yn gweld bydwraig yn rheolaidd, wedi cael hydrotherapi am ei chefn gwael ac roedd yn gwneud y mwyaf o weld teulu agos cyn cael ei babi.

Ond yr wythnos diwethaf cafodd menywod beichiog eu hannog i fod yn llym wrth ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol.

Image copyright Llun teulu
Image caption Dywed Lucy a'i darpar ŵr fod y canllawiau newydd wedi effeithio arnyn nhw gryn dipyn

"Dydw i heb weld fy mam bellach ers tua phythefnos...yr un person y byddwn i moyn mynd ati am unrhyw beth sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd," meddai.

"Gallwch chi ffonio pobl, FaceTime a phethau felly, ond dyw hynny ddim yr un peth â'u gweld yn gorfforol. A dyna'r rhan rwy'n ei chael hi'n anodd."

Dywedodd Lucy ei bod yn poeni am fynd i apwyntiadau bydwragedd a mynd i'r ysbyty rhag ofn iddi ddal y feirws.

"'Dych chi fod i ddathlu ond chi methu mewn gwirionedd."

Cyfaddefodd cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru, Helen Rogers "y bydd angen i wasanaethau newid" ac y gallai menywod gael llai o ddewis o ran sut a ble maen nhw'n rhoi genedigaeth gan fod "y gwasanaeth dan straen".

Anogodd unrhyw ferched â phryderon i gysylltu â'u bydwraig gymunedol.

Dywedodd: "Nid ydym am i fenywod boeni'n ddiangen. Mae bydwragedd yn barod i ferched beichiog sy'n bryderus ac sy'n poeni, rydym yn gwybod bod hwn yn amser arbennig o bryderus iddyn nhw, felly byddem am i fenywod gysylltu â ni."

Ond ychwanegodd, os oes gan fenyw arwyddion o'r feirws, ni ddylai fynd i unrhyw glinigau a dylai drafod cynllun gyda'i bydwraig gymunedol.

Image copyright Getty Images

Dywedodd Ms Rogers y gallai mamau gadw mewn cysylltiad â'i gilydd trwy ddosbarthiadau cynenedigol.

Mae pob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru wedi gohirio dosbarthiadau o'r fath yn dilyn y mesurau diweddaraf. Dywedon nhw y byddai adnoddau'n cael eu rhoi ar-lein.

Mae'r Ymddiriedolaeth Geni Plant Cenedlaethol (NCT) hefyd wedi gorfod rhoi'r gorau i redeg ei 64 dosbarth cynenedigol yng Nghymru ac mae'n eu cynnal ar-lein yn lle.

Dywedodd Laura Livingstone, sy'n cynnal dosbarthiadau cynenedigol ar gyfer menywod beichiog yng Nghaerdydd, fod dosbarthiadau ar-lein yn "ateb da" a allai atal menywod beichiog rhag teimlo'n ynysig gartref.

"Mae lot o gymorth ar-lein am ddim allan yna," meddai.

"Dwi eisiau dweud wrth y mamau newydd yna i beidio dioddef ar eich pen eich hun, does dim angen - rydyn ni yma i chi.

"Mae'n iawn i gael ymateb emosiynol i beth sy'n digwydd. Beth 'dyn ni'n ceisio'i leihau yw'r pryder parhaus ynghylch beth sy'n digwydd."

Straeon perthnasol