Aelodau'r Cynulliad yn cymeradwyo mesur coronafeirws

Cynulliad Image copyright Getty Images
Image caption Dim ond 15 AC oedd yn y Senedd ddydd Mawrth wrth i'r corff gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol

Mae Aelodau'r Cynulliad wedi cytuno i gymeradwyo mesur coronafeirws, fydd yn rhoi grymoedd eang i weinidogion y llywodraeth yn yr ymdrech yn erbyn yr haint.

Ni chafodd unrhyw bleidlais ei chynnal, ac ni wnaeth unrhyw un o'r 15 aelod oedd yn y Siambr wrthwynebu'r mesur.

Mae'r mesur newydd yn cynnwys camau fyddai'n caniatáu i weinidogion Llywodraeth Cymru osod pobl mewn cwarantin, i gau safleoedd ac i adleoli athrawon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio gyda llywodraethau'r Deyrnas Unedig, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar y ddeddfwriaeth a ddylai gwblhau ei thaith drwy Senedd San Steffan ddydd Iau.

'Rhaid newid ffordd o fyw'

Yn ystod y drafodaeth ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford fod y wlad yn wynebu'r "argyfwng iechyd mwyaf difrifol ers canrif" ac mae'n "rhaid i ni gyd newid ein ffordd o fyw."

Dywedodd bod y mesurau diweddaraf gafodd eu cyhoeddi nos Lun i arafu ymlediad y Coronafeirws yn "angenrheidiol".

"Mae Cymru'n wynebu yr argyfwng iechyd mwyaf difrifol ers canrif," meddai Mr Drakeford.

"Mae'n rhaid i ni weithredu er mwyn gwarchod ein cymunedau, amddiffyn y gwasanaeth iechyd ac achub bywydau.

"Mae'r camau yr ydyn wedi eu cymryd yn barod yn gwneud gwahaniaeth ond mae'n rhaid i ni wneud mwy."

Roedd y Llywydd, Elin Jones, yn absennol o'r Senedd am ei bod hi'n hunan-ynysu.

Brynhawn dydd Mawrth fe gyhoeddodd mewn neges ar Twitter ei bod wedi profi'n bositif am coronafeirws.

Image copyright Twitter
Image caption Neges y Llywydd Elin Jones ar Twitter ddydd Mawrth

Mesurau llym

Nos Lun cafodd cyfres o fesurau llym eu cyhoeddi gan y Prif Weinidog Boris Johnson i gyfyngu'n sylweddol ar symudiad pobl, gan gynnwys penderfyniad i gau busnesau nad sy'n cael eu hystyried yn hanfodol.

"Mae'r mesurau hyn yn angenrheidiol er mwyn arafu'r feirws ac amddiffyn pawb, yn enwedig y bobl mwyaf bregus," ychwanegodd Mr Drakeford.

"Mae'n rhaid i ni i gyd newid ein ffordd o fyw.

"Mae'n rhaid i bob rhan o gymdeithas ymateb er lles pawb."

Gweinidog Iechyd

Yn ystod y drafodaeth, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod y ddeddfwriaeth newydd fyddai'n rhoi pwerau newydd i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â haint coronafeirws yn "rhesymol".

Dywedodd Mr Gething bod angen y ddeddfwriaeth "i ddiogelu bywyd a iechyd cyhoeddus y wlad".

"Dwi'n gofyn i aelodau a'r cyhoedd am eu hymddiriedaeth a'u cefnogaeth parhaus i gymryd y grymoedd yma," meddai Mr Gething.

"Dwi'n gofyn am y gefnogaeth i gymryd camau i achub cymaint o fywydau a phosib yma yng Nghymru."

Image caption Dywedodd Mark Drakeford bod y camau sydd wedi cael eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth ond bod rhaid gwneud mwy

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn cynnwys mesurau allai fod mewn lle am hyd at ddwy flynedd er mwyn helpu'r awdurdodau i daclo ymlediad yr haint.

Bydd angen iddo gael ei adolygu gan San Steffan bob chwe mis.

Fe fydd gweinidogion Cymru yn cael:

  • gosod pobl neu eu cadw mewn cwarantin, neu gyfeirio person at leoliad penodedig;
  • cyfyngu neu wahardd cyfarfodydd torfol;
  • cau safleoedd.

Dywedodd Mr Drakeford yr wythnos ddiwethaf y byddai'r mesur yn cynnwys pwerau "na welwn fel arfer mewn cyfnod o heddwch".

Bydd hefyd yn cynnwys camau i ryddhau mwy o adnoddau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Fe fydd gan weinidogion y grym i ddweud wrth ysgolion i agor neu gau.

Yr effaith ar athrawon

Bydd modd adleoli athrawon er mwyn ymateb i brinder staff mewn meysydd eraill os oes angen, a chaniatáu pobl i ddychwelyd i'r gwaith yn gynt.

Bydd y rheolau arferol am nifer athrawon i blant yn cael eu llacio hefyd.

Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol bydd gan weinidogion yr hawl i benderfynu dan ba amgylchiadau y bydd modd peidio cynnal archwiliadau record droseddol.

Ar draws y DU gallai meysydd awyr gael eu cau, ac achosion llys gael eu clywed dros ffôn neu fideo.

Straeon perthnasol