'Amdani - a gwneud y gorau o beth bynnag a ddaw...'

Published
Pynciau Cysylltiedig
image copyrightKaren McIntyre Huws
image captionKaren a Mei gyda Nanw a Cybi

Roedd teulu Karen MacIntyre Huws ymysg y cyntaf i ddechrau ynysu eu hunain wrth i coronafeirws gyrraedd Cymru.

Yma, mewn dyddiadur gonest, doniol a didwyll mae'n sôn yn agored am ei hofnau a'i gobeithion. Ac heddiw, wrth i bawb arall droi eu meddyliau at gau'r drws a chilio, mae'n rhannu ambell i ddarn o gyngor ymarferol hefyd...

Nos Sul 15 Mawrth 2020

Ychydig dros wythnos yn ôl roeddwn i'n gwylio'r ddrama Llyfr Glas Nebo yn Pontio, Bangor heb feddwl ar y pryd y byswn i'n paratoi i fyw mewn rhyw fath o sequel iddo rhywsut -'Llyfr Llwyd (a du a melyn a gwyrdd) Clynnogfawr'!

Yn Llyfr Glas Nebo mae hanes perthynas mam a'i mab yn dilyn ffrwydriad ymbelydrol, apocalyptaidd a does 'na neb ar ôl.

Wel, mae 'na hen ddigon o bobl yn dal yma - ond mae'r dewis o gloi'n hunan oddi wrth bawb a dewis bod oddi wrth bawb yn codi ofn braidd.

"'Does wybod beth sydd o'n blaenau mwy na neb arall..."

Wrth edrych ar wledydd eraill a'u byd yn dadfeilio o'u cwmpas mor sydyn, a theimlo diffyg arweiniad gan ein gwleidyddion fedran ni ddim gwadu bod rhaid gwneud rhywbeth o leiaf. Heb oedi, a braidd yn gung-ho dyma gau'r drws ffrynt. Ond ddaru'r ffaith mod i'n dioddef o Diabetes Math 1 (yn dibynnu ar insiwlin i aros yn fyw, ac â system imiwnedd gwan a bregus iawn) ddim gwneud i mi deimlo bod hwn yn benderfyniad byrbwyll nac anghyfrifol.

Be' ddaw ohonom ni felly? Mae Mei yn 56 oed, Nanw'n naw, Cybi'n chwech a finna'n 44 oed. Does wybod beth sydd o'n blaenau mwy na neb arall. Ond dwi'n hoff o'r hen linell "Yn nhrofeydd y ffordd mae ei phrydferthwch...". Felly amdani - a gwneud y gorau o beth bynnag a ddaw.

'Doedd dim amser i rannu ein bwriad efo teulu agos na ffrindiau. Dim ffarwel sentimental a dagrau ac ati - oedd yn beth da, hwyrach. Ond mi fyddwn yn siŵr o gadw mewn cysylltiad efo'r byd drwy Skype a Facebook. Ac mae 'na wastad y ffôn, y we, gweiddi drwy'r ffenestr neu siarad drwy dyllau cloeon!

Fydd dim amser i fynd i siopa ac mae hi'n ddiwedd p'nawn Sul a siopau wedi cau. Amseru penderfyniad yn wael 'ta be'? Y peth agosaf i hyn i mi ei brofi o'r blaen oedd Clwy'r Traed a Genau - haint ar anifeiliad yn 2001 a gyfyngodd ar drafaelio a oedd yn golygu nad oeddwn ni'n gallu prynu tanwydd na llefrith.

Mae hyn, heb os, am fod yn waeth o lawer. Am ein bod fel teulu'n siopa ychydig bach yn aml does 'na fawr o ddim yn y tŷ. Ond daw rhyw dda o bopeth meddan nhw - mae 'na fwydydd sydd wedi bod yng nghefn y cwpwrdd ers hydoedd. Daw hyn yn gyfle iddyn nhw gael eu hawr fawr! Courgette efo CuppaSoup a cranberry sauce ers y Dolig!

image copyrightKaren McIntyre Huws
image captionKaren a Mei

Diwrnod 2

Codi'n hwyr a sylwi'n syth nad oedd y tŷ ddim yn barod i hyn. Yn ddelfrydol mi fysa'r pantri yn barod a popeth wedi cael stock take, y tegannau, papurau a phensiliau, paent ac ati wedi eu trefnu fel ein bod yn gallu ffeindio pethau'n hawdd. Ond mi fydd yn rhaid addasu wrth fynd.

Mae'n ganol bore yn Ysgol Bryn Eisteddfod a'r athrawon, Mr a Mrs Huws, yn gwneud eu gorau. Ond efo dau o blant, a rheiny'n godro'r 'home sgŵling' 'ma i'r eithaf, does fawr o amser i wneud dim byd arall.

Daeth rhywun i'r drws yn gynharach a chreu mymryn o banic go iawn. Be' wnawn ni? Agor y drws a chamu nôl? Peidio ag ateb? Be' os ydyn nhw'n ffrindiau da? Sgwrsio drwy'r twll llythyrau wnaethon ni. Profiad digri iawn. Bellach mae poster ar y drws yn nodi ein bod yn cilio.

Strwythr

Dwi'n meddwl mai buzz word y diwrnod i mi heddiw ydi strwythr. Dwi'n credu mai'r ffordd orau i gael y gorau o'r diwrnod sydd o'ch blaen ydi cynllunio o flaen llaw. Felly os am ymdopi am y diwrnodau, wythnosau, misoedd nesa' rydan ni am wneud ymdrech i godi yr un amser, bwyta yr un amser a thorri'r diwrnod i gyfnodau lle ma' pawb yn gwybod pwy sy'n gwneud be', a pha bryd.

Mi fydd cadw at amser gwely'r plant hefyd yn hanfodol. Ond haws dweud na gwneud! Hwyrach llacio mymryn ar bethau ar benwythnos fel y byddan ni fel arfer. Ac efallai caiff nos Fercher a nos Iau fod yn benwythnos rwan, jest i ni gael teimlo'n rebals. Ble mae'r gwin a'r bocs chwarae Bingo?

Dwi'n croesawu brwdfrydedd diddiwedd y plant a'u hagwedd iach at yr holl beth. Does gan y pethau bach ddim wir syniad o'r sefyllfa, a phwy a ŵyr pryd y gwelan nhw wynebau eraill heblaw ein rhai ni. Ond tydi hynny ddim ots am rŵan. Mae nhw yn fy helpu i beidio meddwl am y problemau anferthol sy'n dod i'n aelwyd ni yn bersonol yn sgil y feirws 'ma.

"Mae ein wyau ni i gyd yn yr un fasged..."

Cadw lle Gwely a Brecwast mae Mei a finna, ac ar ôl gaeaf hir a llwm, tydi'r cyfyngu ar symudiadau pobl ddim yn gwneud lles o gwbl i'r busnes. A dweud y gwir mae o wedi marw'n barod. Mae pobl wedi dechrau canslo rif y gwlith a dim bwcins newydd o gwbl.

Ein busnes ydi ein cartref hefyd, a tydan ni ddim yn gwmni cyfyngedig - felly os ydan ni'n colli'r busnes rydan ni'n ddigartref hefyd. Tydi rŵan ddim yn amser da i fod yn y sector breifat nac yn hunan-gyflogedig.

Mae'r gwaith mewn ysgolion roedd Mei'n ei gael hefyd wedi diflannu. Mae ein wyau ni i gyd yn yr un fasged, fel sawl gŵr a gwraig arall sy'n gweithio efo'i gilydd ac yn rhedeg busnes ar liwt eu hunain.

Dwi'n poeni'n ofnadwy am sut fyddwn ni'n gallu cadw fyny efo taliadau heb arian yn dod i mewn. Ond 'gallai fod yn waeth' meddan nhw. Mae cannoedd o filoedd o bobl eraill mewn gwaeth sefyllfa na ni'n barod.

Rydan ni'n sbio ar sut i dorri ac arbed ymhob man. Gan na fyddan ni'n mynd i unman am sbel 'does na ddim pwynt talu yswriant ar ddau gar, na chwaith eu trethu. Cysylltu efo BT i dalu llai am wasanaeth ffôn busnes, gwneud unrhywbeth allwn ni i docio ar y gwario.

Ond yn ôl i'r dosbarth! Dysgu am y cloc heddiw mewn ymgais i drio cael gwersi sy'n addas i ddau o blant â gwahaniaeth oed o dair blynedd. Cael fy atgoffa eto mor anodd ydi'r cloc i blant, a hefyd cystal ydi athrawon am eu dawn a'u gallu i gadw trefn a chyflwyno gwersi mor amrywiol a difyr. Ydi dysgu plant pobl eraill yn haws tybed?

image copyrightKaren McIntyre Huws
image captionYsgol Bryn Eisteddfod

Diwrnod 3

Yr euog a ffy, ond 'rargian ma'r gri "... os na 'wbath i fwyta" yn dod yn lot amlach heddiw! Erioed wedi ystyried faint o top-up dwi'n g'neud i'r siop mawr wythnosol, piciad i nôl hyn a llall. Pan mae pedwar o bobl yn y tŷ trwy'r dydd bob dydd, mae o wir fel bod pla o locustiaid wedi galw heibio.

"Dwi'n paratoi at y marathon nid y sbrint..."

Fues i'r garafan neithiwr a dod o hyd i focs o gwstard UHT oedd i fod i gael ei fwyta cyn Ionawr 2020 a dau part-baked baguette oedd i fod i fynd i'r gwastraff yn ystod Eisteddfod Llanrwst. Mi geith Mei weld sut flas sydd ar rheiny gyntaf - mae ganddo gyfansoddiad fel haearn Sbaen!

Ar ein drws ffrynt mae sticer yn nodi Sgôr Hylendid o 5/5 sy'n ei gwneud bron yn drosedd ystyried bwyta'r fath bethau. Ond mae fy mhen bellach wedi ei gêrio i fod yn y ras yma long haul. Tydi hyn ddim am orffen yn fuan yn fy marn i - a dwi'n paratoi at y marathon nid y sbrint.

Un peth gwerth ei nodi ydi bod platiau glân bob pryd ers dyddiau rŵan. 'Does 'na ddim swnian: bwytwch eich bwyd. Llai o siarad wrth y bwrdd. Mae o jest yn digwydd, ac am hynny dwi'n falch o'r newid.

image copyrightKaren McIntyre Huws
image captionPlatiau glân

Wrth gwrs, ma'r post yn dal i gyrraedd ac mae o'n broses rhyfedd disgwyl i'r amlenni 'setlo' rhag ofn bod 'na haint arnyn nhw a wedyn eu hagor efo menyg ac wedyn golchi dwylo. Dros ben llestri hwyrach, ond os gwneud hyn mae'n rhaid ei wneud yn iawn.

Er ein bod yn gwbl ynysig bellach, dydan ni ddim yn gwybod i sicrwydd ein bod yn glir o'r clwy' 'ma. Os na ddaw symptomau ar ôl pump i chwech diwrnod o fod oddi wrth y byd mi fyddan ni'n agor bag o bopcorn i ddathlu!

Pecynnau addysg a phapur tŷ bach

Rydan ni wedi derbyn pecynnau addysg mewn amlenni i'r plant heddiw. Cawson nhw eu gadael yn y porch gan gymydog clên. Mae o'n andros o fwndal o waith, felly rhyw gadarnhad tawel mai rhywbeth hir dymor ydi hyn. Gaiff rhain sylw call o wythnos nesa' ymlaen.

Drwy lwc roeddwn i wedi trefnu bod archfarchnad yn dod â bwyd yma ddydd Sadwrn. Mi fyswn ni wedi gallu gwneud efo'r nwyddau hyn yn gynt ond mae cymdogion a ffrindiau caredig wedi bod yn holi amdanom ni ac wedi cynnig nôl pethau. Fysan ni wedi bod ar goll heb eich cymorth.

Un peth y mae gennym ni ddigon ohono, am rŵan, ydi papur tŷ bach - un mantais o gadw B&B gwag! Serch hynny, rydan ni'n cadw at y cerdyn rations efo papur toilet ac mae Nanw wedi ailgreu rhyw life hack welodd hi ar YouTube sydd ddim yn gadael i neb or-ddefnyddio'r adnodd gwerthfawr hwn!

image copyrightKaren McIntyre Huws
image captionDigon o bapur tŷ bach - un mantais o gadw B&B gwag

Rydw i'n ymwybodol iawn hwyrach bod gwneud y penderfyniad i ynysu ddim mor anodd i ni ac ydi o i bobl eraill. Rydan ni'n hunan-gyflogedig yma ac yn treulio bron pob awr adref beth bynnag ac yng nghwmni ein gilydd o hyd.

"Mae blaenoriaethu pethau bywyd yn haws i mi..."

Dwi'n meddwl am yr holl bobl sy'n rhan o rhyw café culture, rhyngweithio ac ati. Mi fydd unrhyw lockdown yn fwy anodd iddyn nhw addasu. A beth am y bobl hynny sydd ddim yn dod ymlaen yn rhy dda efo'u partneriad ers tro? Be' ddaw ohonyn nhw? Mae dyddiau dyrys ar eu ffordd.

Ond mae gen i agwedd iach at lawer iawn o bethau. Bu i mi bron â marw yn 2002 wedi i mi gael gwybod mod i â Diabetes aeth heb ddiagnosis yn hir. Am wn i mod i wedi sbio ar fywyd a byw'n wahanol ers hynny ac mae blaenoriaethu pethau bywyd yn haws i mi.

Mae Bryn Eisteddfod yn dŷ mawr oer. Tŷ perffaith i B&B ond nid i deulu o bedwar. Mi fydd ei gadw'n gynnes yn gost ychwanegol. Roeddan ni yn y broses o gael gosod stôf goed, ond fydd hynny ddim yn digwydd rŵan tan bydd y darlun yn gliriach.

Rydan ni wedi bod yn defnyddio tân bach nwy yn y cyfamser ('does dim pwynt tanio'r boiler anferth sy'n c'nesu'r lle fel arfer ac yn cael ei dalu amdano gan westeion!). Ond mi redon ni allan o nwy bore ma - diolch i'r drefn bod y gwanwyn ar ei ffordd â mymryn o wres haul, gobeithio.

Mae rhyw deimlad fel diwrnod Dolig yn y tŷ heddiw. Dim y dathlu, ond bod y ffyrdd yn ddistaw tu allan, neb yn ffonio na galw, pethau wedi tawelu'n raddol. Y teimlad unigryw hwnnw sy'n digwydd unwaith y flwyddyn. Mi fydd yma am hir o hyn allan, o bosib.

Mae 'na deimlad mwy hamddenol yma heddiw hefyd ac am 'chwarae ysgol' yn y prynhawn yn unig. Rhaid mynd efo rhythm y plant yn hyn i gyd weithiau. Dyna'r syniad o drefn a chynllunio a strwythr wedi mynd drwy'r ffenast!

Un peth positif, gan nad ydan ni'n cymdeithasu o gwbl, ydy ein bod yn gwisgo yr un dillad am y trydydd diwrnod yn olynol. Mae'r periaint golchi yn falch o'r saib, a'r dyletswyddau cadw dillad yn tipyn haws. Ond mae Mei wedi addo peidio â thyfu locsyn!

Mae'r plant yn dal i odro sylw eu rhieni a'r wild card heddiw oedd eu bod nhw eisiau dechrau gwau! Champion! Ond does dim gweill yn y tŷ. Pwy o ddifri sy'n cadw gweill sbâr? Ond mae bocs o kebab skewers pren yn y cwpwrdd bwyd ac mewn bocs yn yr atig roedd ambell belen o wlân! Mi fydd gynnon ni sannau newydd erbyn mis Awst!

Dwi'n teimlo'n euog ei bod hi wedi cymeryd dôs o haint drwy'r byd i ni eistedd i lawr i ddysgu'r sgil elfennol yma i'r plant. Maen nhw wrth eu boddau yn treulio oriau'n cael y wefr o weld sgarff i Barbie'n tyfu o flaen eu llygaid. Gweithgaredd mor syml yn creu difyrrwch mor fawr.

image copyrightKaren McIntyre Huws
image captionPwy o ddifri sy'n cadw gweill sbâr?

Diwrnod 4

Dwi'n meddwl mai'r ffordd ymlaen fydd meal plans - trio trefnu 'mlaen llaw be' i'w brynu fel nad ydan ni'n gwastraffu na'n mynd heb. Mae trio cael pump ffrwythyn y dydd am fod yn her felly bydd rhaid dibynnu ar ddigon o sudd ffrwythau mewn carton, pethau 'di sychu a llysiau o'r rhewgell. Roeddwn i'n clywed heddiw ar y we nad oes posib prynu rhewgell yn unman bellach - rhyfedd o fyd.

"Mae 'na lwythi o fusnesau fel ni yn dioddef..."

Fel person, dwi'n newid yn ara' deg. Dwi'n gweld fy hun yn bod yn fwy fforddiol a darbodus: diffodd rhyw lampau golau sy'n creu awyrgylch fel arfer. Mae'n rhaid cyfiawnhau rhoi popeth ymlaen bellach. Dwi wedi clywed hefyd na fydd y cwmnïau trydan yn torri cyflenwadau yn ystod y cyfnod yma. Mae hynny'n ryddhad mawr.

Teimlo'n llai ar ein pennau ein hunain yn ariannol hefyd. Mae 'na lwythi o fusnesau fel ni yn dioddef felly fydd o ddim yn bosib i'r banciau hel pawb o'u tai yn un fflyd. Dyna fy mreuddwyd beth bynnag! Cawn weld...

Plannu

Ers tro mae twrch daear wedi bod yn codi yn yr ardd, sydd yn boen gan amlaf ond heddiw aethon ni allan a hel y pridd i fwcedi yn barod i blannu tatws! Mae'r tatws hadyd yn barod a mi fyddan nhw'n mynd i'r pridd toc a byddwn yn edrych ymlaen at gnwd bach tua mis Mehefin (er ein bod yn gobeithio'n fawr, ond efallai'n ofer, y byddwn ni'n cael gwledda allan yng nghwmni ffrindiau a theulu erbyn hynny).

Erbyn heddiw dwi bron â dweud bod fy nghydwybod yn caledu. Pethau oedd unwaith yn procio fy nghydwybod yn golygu llai i mi. Dwi'n ailgylchwr brwd ac wastad wedi bod ond mae pethau fel achub y môr o blastig ac hysbysebion Save the Cats ac ati yn cael llai o gydymdemlad gen i - a dwi'm yn licio cyfaddef hynny am fy hun.

Dwi'n teimlo'n fwy adlewyrchol heddiw - tybed oeddan ni angen hyn fel pobol - dynoliaeth, hynny yw? Roedd hi wedi mynd yn sefyllfa digon hyll rhwng pobl a'u gwleidyddiaeth yn dilyn Brexit onid oedd? Oes yna rhyw elfen o dynnu 'mlaen â'n gilydd mwy am fod tybed? Dros dro o leiaf?

Wrth orwedd yn fy ngwely'n trio gwneud sens o'r holl beth, mae fy mol ar fy meddwl hefyd. Petai bocs o fisgedi drud, neis neu fag mawr o greision neu borc peis yn y tŷ dwi'n gwybod y byswn i wedi mentro i lawr i'w nôl nhw! Mae'n siŵr y gwneith fwy o les na drwg i mi fynd heb.

image copyrightKaren McIntyre Huws

Diwrnod 5

Mewn llai nag wythnos mae'r byd wedi mynd yn fychan iawn. Rydan ni i gyd yn colli clywed lleisiau pobl a gweld wynebau pobl eraill. Dwi'n trio peidio meddwl am gyd-destun hir dymor hyn ond mi ddaru Nanw gymharu hyn â'r ffilm Tangled sef y chwedl Rapunzel lle ma'r dywysoges yn gaeth mewn tŵr am amser hir iawn. Da ydi cael dychymyg iach, ond ddim ar rai adegau!

Un cysur i mi yw bod llawer iawn o bobl yn teimlo ein bod yn yr un cwch, efo'n gilydd a bod pobl fel tasa nhw'n gweld sefyllfa eraill yn waeth na'u sefyllfa nhw. Sydd yn beth da ac yn mynd â ni oddi wrth y gymdeithas hunanol yr ydan ni wedi tyfu i fod.

Mae adroddiadau o'r Eidal yn fy nychryn i fy sail a dwi'n teimlo'n flin efo llywodraethau San Steffan a Chaerdydd na chafodd mwy ei wneud yn gynt. Ond dyna fo, hen benbleth rhai gwleidyddion erioed: arian v pobl.

Mae ein dyddiadur ni fel busnes a theulu am rŵan yn berffaith wag - dim ymrwymiadau nac apwyntiadau o gwbl. Dim ymarfer corn, dim Mei yn barddoni mewn ysgolion, dim ymwelwyr yn cyrraedd - dim oll. Hyd yn hyn rydan ni'n ymdopi'n iawn.

Un seren

Yr unig amser i mi deimlo'n emysionol am hyn i gyd, mewn pum diwrnod, oedd pan sylweddolais nad oedd gen i ond un sensor diabetes ar ôl (y teclyn sydd yn fy helpu i gadw'n iach) a bod bywyd hwnnw'n dod i ben mewn pythefnos. Yr un pryd mi glywais i Delwyn Siôn yn canu Un Seren ar ein playlist o'r enw Dygymod. Cafodd tant anferth yn fy nghalon ei dynnu a fedrwn i ddim ond colli rhyw ddeigryn neu ddau.

image copyrightKaren McIntyre Huws
image captionSensor diabetes Karen

Mae Nanw a Cybi'n "hanner mwynhau" eu hunain. Yn Ysgol Bryn Eisteddfod maen nhw wedi bod yn trafod amser, Morse Code, Ffrangeg, trydan ac Anne Frank.

Ond lwc owt - mae Mei am roi gwersi cynganeddu iddyn nhw fory!

media captionMae Mei Mac a'i wraig, Karen, wedi penderfynu cadw eu plant o'r ysgol

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig