Sut fydd Radio Cymru yn ymateb i argyfwng coronafeirws?
- Cyhoeddwyd

Yr wythnos hon fe ddaeth effaith coronafeirws yn fwy amlwg ar draws y wlad.
Yn y blog yma mae Rhuanedd Richards, golygydd Radio Cymru, yn esbonio sut bydd yr orsaf yn addasu er mwyn parhau i ddarlledu mewn cyfnod o ansicrwydd.
Mae'n golwg ni ar y byd yn newid yn gyflym. Pobl yn gweithio o adref, pobl yn cadw pellter oddi wrth ei gilydd, tai tafarn, bwytai ac addoldai wedi cau a phlant adref o'r ysgol.
Mae'n fyd dieithr ond y gobaith yw cadw rhai pethau yn gartrefol ac yn sefydlog. Mae lleisiau cyfarwydd Radio Cymru yn barod, os gallwn ni, i gadw cwmni i chi drwy bob newid. Lleisiau cyfarwydd ar amser cyfarwydd yn cyflwyno newyddion, gwybodaeth, cwmnïaeth ac adloniant i chi - dyna yw'r nod.
Ond rydym wedi penderfynu gwneud ambell newid bach dros y cyfnod nesaf er mwyn ymestyn ein gwasanaeth newyddion a gwybodaeth yn yr oriau brig, tra'n sicrhau bod yna ddigon o gwmnïaeth ac adloniant ar gael hefyd.
Addasu amserlen
O ddydd Llun ymlaen, byddwn yn symud ychydig o'n gwaith newyddiadurol o'r amserlen amser cinio er mwyn ymestyn y ddarpariaeth yn y boreau.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, ar ôl rhaglen John Hardy ben bore, mi fydd y Post Cyntaf yn cael ei ddarlledu tan 9 o'r gloch. Mi fydd yr hanner awr olaf (rhwng 08:30 a 09:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener) yn gyfle i'n gwrandawyr holi cwestiynau i arbenigwyr yn eu maes am y feirws a'i sgil effeithiau.
Tra bydd y Post Cyntaf wedi ei ymestyn, mi fydd Radio Cymru 2 hefyd yn darlledu o 7-9 y bore (o ddydd Llun i ddydd Gwener), gan roi dewis amgen i'r rheini sydd eisiau cerddoriaeth ac adloniant ben bore.
Ydych chi yn poeni am y coronafeirws?
— Radio Cymru (@BBCRadioCymru) March 20, 2020
Mae'r #PostCyntaf yn darlledu tan 9 heddiw o dan y drefn newydd, i ateb eich cwestiynau chi. Cysylltwch â @dylanAryMarc drwy ebostio post.cyntaf@bbc.co.uk, ffoniwch 03703500500 neu @BBCRadioCymru pic.twitter.com/2Tn4cddbDb
Mae hyn oll yn golygu na fydd rhaglen Aled Hughes yn dechrau tan 9 y bore ond bydd yn cael ei hymestyn tan 11. Bydd y rhaglen yn ymdrechu i wneud dau beth ychwanegol o wythnos nesaf ymlaen, sef dathlu ymdrechion ein gwirfoddolwyr cymunedol ar yr adeg anodd yma a phontio rhwng ein pobl ifanc a'u hysgolion yn dilyn y penderfyniad i'w cau.
O 11 y bore tan 1 y prynhawn, Shân Cothi fydd yn y gadair fawr ac yn cynnig ei chynhesrwydd a'i hwyl arferol - yn enwedig i'r rheini sy'n hunan-ynysu. Mae ei 'Chymanfa Gegin' eisoes yn boblogaidd wrth i bobl ddewis ambell emyn y maen nhw am ganu neu gyd-ganu yn eu cartrefi. Mi fydd Bore Cothi yn cynnwys bwletin estynedig am hanner dydd.
Ar ôl Dros Ginio rhwng 1 a 2 y prynhawn, Ifan Jones Evans fydd yn cadw cwmni i chi fel yr arfer rhwng 2 a 5 y prynhawn ac mi fydd yna gwis newydd ar gyfer y teulu cyfan bob dydd. Ond ar ddydd Gwener, wrth gwrs, mi fydd Tudur Owen, Dyl Mei a Manon Rogers yn mwydro ein pennau ni fel arfer er mwyn ceisio codi gwên.
Cynnal cerddoriaeth fyw
Mae byd ein cerddorion a'n perfformwyr yn sicr wedi newid gyda chyngherddau a gigs wedi eu canslo. Felly rydym wedi penderfynu creu 'Sesiynau Tŷ' - cyfle i gerddorion berfformio caneuon yn eu cartrefi; ambell gân newydd, ambell addasiad, ond digon o gyfle i ni fwynhau eu doniau.
Nid ydym am anghofio ein beirdd. Rydym yn gobeithio parhau gyda Talwrn y Beirdd ond ar ffurf fymryn yn wahanol.
Ni fydd hunan-ynysu a 'chadw pellter cymdeithasol' yn ffrwyno ein huchelgais a'n hawydd i ddarparu gwasanaethau amrywiol ar BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw. Mae'n sefyllfa heriol wrth reswm ond mae'r tîm yn benderfynol o fwrw'r maen i'r wal, er mwyn bod yn gwmni cynnes pan mae cymaint yn gorfod bod ar eu pen eu hunain a thrwy hynny - efallai y byddwn yn codi calon y genedl tra'n cyfleu'r wybodaeth ddiweddaraf, dros y misoedd nesaf.
Diolch am eich cefnogaeth. Gan gadw'ch pellter, rhannwch y neges gyda'ch cymdogion neu'ch cyfeillion ar y cyfryngau cymdeithasol.
Hefyd o ddiddordeb: