'Byddwch yn garedig i'ch gilydd wrth hunan ynysu'

Published
Pynciau Cysylltiedig
image copyrightGetty Images

Dylai pobl roi unrhyw densiynau i'r naill ochr a bod yn fwy caredig i'w gilydd tra bo achosion coronafeirws yn gorfodi teuluoedd i dreulio mwy o amser gyda'i gilydd yn eu cartrefi, medd elusen cwnsela perthynas.

Golyga mesurau llym y bydd rhai pobl yn treulio cyfnodau hir yng nghwmni eu hanwyliaid - rhywbeth na sydd wedi digwydd ers degawdau.

Canlyniad posib hynny, medd hanesydd meddygaeth, yw straen ar y ddeinameg arferol o fewn cymdeithas yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ond yn ôl Relate Cymru, bydd pobl yn "dod drwyddi drwy ganolbwyntio ar eu perthynas" â'i gilydd.

Mae Llywodraeth y DU yn gofyn i'r cyhoedd osgoi teithiau na sy'n hanfodol ac i weithio o adref os yn bosib.

Ddydd Gwener roedd yna orchymyn i dafarndai, clybiau a bwytai beidio agor o ddydd Sadwrn ymlaen, yn ogystal â theatrau, sinemâu, campfeydd a chanolfannau hamdden.

Dydy'r llywodraeth ddim wedi diystyru camau llymach - camau a fyddai'n cyfyngu ar allu pobl i symud mewn dinasoedd a gwledydd ar draws y byd.

Mae'r cyfan wedi gadael pobl i deimlo eu bod wedi colli rheolaeth ar eu bywydau, medd Dr Rachel Davies, cynghorydd gyda Relate Cymru, ond mae'n dweud bod yna bethau allan nhw wneud i wella'r sefyllfa.

"Perthnasau fydd yn eich cael chi drwyddi," meddai. "Bydd bod yn garedig i'n gilydd yn ein helpu i ymdopi'n well."

"Mae'n mynd i drethu amynedd pawb'

image captionBydd Suzette Norris yn treulio mwy o amser na'r arfer gyda'i hŵyr 19 mis oed, Theo

Mae tair cenhedlaeth o'r teulu Norris yn byw yn yr un tŷ yn Y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd - Fred sy'n 58, Suzette 56, eu merch 22 oed - Ffion sy'n 22, a'i mab 19 mis oed hithau.

"Mae'n gallu bod yn anodd," medd Suzette. "Dydach chi ddim yn mynd allan o gwbl, does neb yn cael amser i'w hunain."

Mae Fred yn ofni mynd dan draed Suzette, gan gellwair ei bod hi'n "fwy o fygythiad i mi na coronafeirws! Mae hi'n mynd i'n lladd i cyn diwedd yr wythnos!"

Ychwanegodd: "Mae'n mynd i drethu amynedd pawb, rwy'n siŵr, ond yn y pen draw mae'n rhaid dod drwy'r cyfan, rywsut."

Dywedodd fod y we'n helpu pobl i ddefnyddio ffonau a dyfeisiadau mewn ystafelloedd ar wahân.

Ond mae'r sefyllfa'n her i Ffion ddiddanu mab mor ifanc.

"Mae'n fy ngyrru'n benwan, i fod yn onest," meddai. "Fel arfer, rwy'n hoffi mynd ag e allan, i nofio neu'r ganolfan soft-play ac ati ond nawr allwch chi ddim gwneud hynny."

Mae'r awyrgylch ymhlith y teulu yn "iawn ar y foment, dydyn ni ddim yn rhy ddrwg, ond mae'n ddyddie cynnar."

Yn ôl Dr Rachel Davies, mae pobl "oedd eisoes â phroblemau yn eu perthnasau" wedi cysylltu â Relate.

"Rydyn ni'n annog pobl, gymaint ag sy'n bosib, i roi unrhyw anghytuno o'r neilltu yn ystod y cyfnod yma.

"Mae yna elfen o benderfynu be sy'n wirioneddol bwysig a thynnu ynghyd pan fo'r byd tu allan yn fwy cas."

Cyngor Relate Cymru ar osgoi tensiynau yn y cartref yn ystod y cyfyngiadau coronafeirws:

  • Byddwch yn fwy caredig i'ch gilydd, ac yn fwy parod i fod yn oddefgar.
  • Ystyriwch fod pobl yn delio â phryderon mewn ffyrdd gwahanol - mae rhai'n chwilio am bethau i dynnu eu meddyliau o'r sefyllfa ac eraill yn chwilio am wybodaeth sydd ar gael.
  • Ewch i wahanol ystafelloedd yn y tŷ os oes angen lle ac amser i'ch hunan - does dim rhaid bod gyda'ch gilydd ddydd a nos.
  • Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol, ffonau a negeseuon testun i gadw mewn cysylltiad os oes angen hunan ynysu mewn ystafelloedd gwahanol.
  • Gohiriwch drafodaethau ynghylch materion sensitif nes bydd straen y cyfyngiadau wedi mynd heibio.
  • Cydnabod y cyfle i'r teulu fod gyda'i gilydd gartref a'i ddefnyddio i 'nabod eich gilydd yn well.
image copyrightDavis/Hulton Archive/Getty Images
image captionDiheintio bws rhag y Ffliw Sbaenaidd a laddodd 11,400 o bobl yng Nghymru yn 1918 a 50m ar draws y byd

Yn ôl Dr Michael Bresalier, darlithydd hanes meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae pobl yn wynebu cyfyngiadau sy'n ddigynsail yn yr oes hon.

Mae'r arbenigwr ar bandemig Ffliw Sbaenaidd dros ganrif yn ôl yn awgrymu fod teuluoedd mewn gwell sefyllfa, mewn rhai ffyrdd, i ymdopi â chyfyngiadau nôl yn 1918.

"Roedd pobl wedi arfer ag amodau rhyfel, boed oherwydd diffyg nwyddau neu gyfyngiadau gwahanol, ond roedd yna hefyd synnwyr cryf o gymuned a gweithredu er lles y genedl.

"Wedi dweud hynny, mae'n haws heddiw nag erioed o'r blaen i fod yn ynysig a chael cyfyngiadau ar ein symudiadau. Mae gyda ni'r cyfryngau cymdeithasol, mae mwyafrif yn gallu gweld Netflix ac adnoddau ar-lein amrywiol."

Ond er i sinemâu ac ysgolion gau yn 1918, dywed Dr Bresalier "bod dim cynsail" ym Mhrydain ar gyfer y cyfyngiadau tebygol ym Mhrydain cyn diwedd yr argyfwng presennol.

"Bydd pobl yn ei gweld hi'n rhyfedd ond mae'n dibynnu am ba hyd mae'n para. Os yw am gyfnod cymharol fyr, mae pobl wedi arfer gwneud llawer o adref.

"Ond petai'n ymestyn i fis, bydd yna straen ar y ddeinameg o fewn cymdeithas."

Straeon perthnasol