'Dylai neb deimlo'n israddol am siarad iaith eu hunain'

Published

Yn 2017 fe wnaeth Cymru Fyw gyfarfod Richard Simcott. Gwnaeth y gŵr sy'n siarad 25 iaith argraff fawr wrth drafod dylanwad cynnar y Gymraeg arno.

Mae Richard yn byw ym Macedonia, ond yn teithio'r byd yn rhannu ei gariad at ieithoedd. Mae ieithoedd lleiafrifol o ddiddordeb penodol iddo, ac mae'n angerddol am eu gwarchod a'u dathlu.

Y penwythnos yma fe fydd yng Nghaeredin yn rhan o gynhadledd The Language Event sy'n dathlu holl ieithoedd brodorol ynysoedd Prydain.

Yn ddiweddar fe oedd Richard yn feirniadol o Sky News, wedi i gyflwynydd awgrymu mewn cyfweliad fod y Gymraeg yn 'iaith ddiwerth'. Felly pa mor obeithiol yw Richard am sefyllfa'r Gymraeg ac ieithoedd brodorol eraill?

Fel rhywun o deulu Cymreig sydd wedi colli'r iaith oherwydd gweithredoedd hanesyddol oedd yn ceisio cael gwared ar yr iaith a'i ddad-boblogeiddio ymysg y Cymry, roedd rhaid i mi ei dysgu fel ail iaith.

Gwnaeth hyn fi'n awyddus iawn i dalu mwy o sylw i hawliau grwpiau i fodoli drwy eu hieithoedd eu hunain, yn arbennig ieithoedd sydd yn frodorol i'r DU, Iwerddon, Ynys Manaw ac ynysoedd eraill ein rhanbarth.

Wedi blynyddoedd o glywed fod ein hieithoedd brodorol yn 'ddibwynt' neu'n 'annefnyddiol', mae rhai pobl yn y gwahanol rannau o'r Ynysoedd wedi dechrau credu'r celwydd. Mae'n cymryd amser hir i newid meddyliau, ac rydyn ni wedi gweld dirywiad enfawr yn nefnydd teuluoedd Cymreig o'r iaith.

media captionMae Richard Simcott wedi astudio dros 50 o ieithoedd ac yn rhugl mewn dros 25

Iaith 'ddiwerth'?

Yn fy nheulu fy hun, fe gollon ni'n hiaith oherwydd ei bod yn cael ei ystyried yn 'ddiwerth' neu 'annefnyddiol', a hyd yn oed yn cael ei disgrifio fel anfantais oherwydd y byddai'n amharu ar safon ein Saesneg. Y farn oedd y dylid canolbwyntio ar Saesneg yn unig er mwyn llwyddo mewn bywyd.

Dyw'r syniad yma ddim wedi diflannu eto, a gan ei fod wedi cael ei seilio ar 'farn swyddogol', mae wedi goroesi, er ei fod wedi cael ei wrthbrofi ddegau o weithiau.

Ond mewn gwirionedd, mae adnabod eich etifeddiaeth ac iaith deuluol yn dda i'ch ymennydd.

Y gobaith yw y gallwn annog pobl i ddysgu'r ieithoedd yma, er mwyn cysylltu â'n gorffennol, datblygu ein hymennydd, cadw dementia draw a datblygu ymennydd mwy hyblyg gan fod siarad iaith arall yn rhugl yn ein galluogi i ddelio â phethau eraill yn haws hefyd.

image copyrightWIKI
image captionMae'r Cenhedloedd Unedig wedi dynodi Degawd Rhyngwladol Ieithoedd Brodorol, fydd yn cychwyn yn 2022

2019 oedd Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol. Fe ddathlon ni'r flwyddyn honno yn y Polygot Conference yn Fukuoka.

Ond roedd hyn yn teimlo'n rhy tokenistic i ni, mewn gwirionedd, felly fe wnaethon ni benderfynu parhau i ddathlu ieithoedd brodorol, lleiafrifol a rhai sydd mewn peryg mewn digwyddiadau ymylol yn 2020, o'r enw The Language Event.

Cafodd pobl y Cenhedloedd Unedig syniad tebyg i ni, ac maen nhw bellach wedi dynodi'r holl ddegawd nesaf i ddathlu ieithoedd brodorol. Yn wir, yn ogystal â The Language Events yng Nghaeredin, Melbourne ac Auckland eleni, byddwn yn parhau i ddathlu a chefnogi ieithoedd lleiafrifol a brodorol yn y Polyglot Conference yn Cholula, Mecsico eleni.

'Saesneg gwael'

Mae digwyddiad cyntaf The Language Event yn dathlu ieithoedd yr Ynysoedd hyn yn y French Institute yng Nghaeredin, lle byddwn ni'n trafod, nid yn unig yr ieithoedd Celtaidd, ond Scots yn ogystal.

Ers canrifoedd, mae siaradwyr Scots wedi clywed eu bod yn siarad 'Saesneg gwael', ac o ganlyniad, mae nifer o bobl yn newid nôl a 'mlaen o Scots i Saesneg yr Alban. Nid yw'r ddwy iaith yr un fath, ac ni ddylai neb wneud i unrhyw un arall deimlo'n israddol neu'n dwp am siarad eu hiaith eu hunain; iaith sydd efallai yn perthyn i Saesneg, ydy, ond yn sicr ddim yn 'Saesneg gwael'.

Byddai Scots yn gallu cael ei achub, a hyd yn oed ddechrau ffynnu, oherwydd ei bod hi'n iaith mae pobl yn ei chlywed ac yn ei dysgu. Yn anffodus, mae'n dechrau uno mwy a mwy gyda Saesneg yr Alban y dyddiau yma.

Ond byddai modd gwrthdroi hyn pe bai'r iaith safonol yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion, er mwyn i ni ei gwarchod a rhoi coel iddi. Yn ogystal, oherwydd ei bod yn perthyn yn agos i Saesneg, mae'n hawdd i newydd-ddyfodiaid ei dysgu, hyd yn oed drwy wrando a gofyn cwestiynau yn unig.

Yn anffodus, y broblem gyda'r ieithoedd Celtaidd, ar y llaw arall, yw nad ydyn nhw'n hawdd iawn i ddechrau eu siarad. Mae angen gwir ymdrechu i ddysgu'r ieithoedd neu hyd yn oed eu deall.

Mae'r Gymraeg, mae'n siŵr, mewn gwell sefyllfa na Gwyddeleg neu Gaeleg oherwydd ei bod hi'n eithaf rhwydd i'w hysgrifennu oherwydd ei chystrawen syml a'r wyddor ffonetig, ac er mwyn ei siarad, mae'r strwythurau cyfathrebu yn syml i'w dysgu.

Mae gennym ni dreftadaeth ieithyddol sydd yn hyfryd o amrywiol, yn gymysgfa o ieithoedd, tafodieithoedd ac acenion. Mae angen i ni werthfawrogi pa mor gyfoethocaf y'n ni o'u cael.

Hefyd o ddiddordeb: