Rhai 'ddim yn trafferthu' o achos rheolau hawlfraint yr Urdd

Published
Pynciau Cysylltiedig
image captionMae'r Urdd yn annog cystadleuwyr i wirio hawlfraint cyn cystadlu yn yr eisteddfod cylch a sir

Mae cyd-sylfaenydd ysgol berfformio yn dweud bod rhai o'i ddisgyblion wedi penderfynu peidio cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni oherwydd rheolau hawlfraint.

Cyfrifoldeb y cystadleuydd yw sicrhau bod ganddyn nhw'r hawlfraint i berfformio unrhyw ddarnau maen nhw wedi'u dewis yn yr eisteddfodau cylch, sir a'r genedlaethol.

Dydy'r rhain, medd trefnydd dros dro'r Eisteddfod, ddim yn rheolau newydd.

Yn siarad ar raglen Dros Ginio Radio Cymru, dywedodd Llio Maddocks fod y mudiad yn "trio amlygu'r rheolau o'r cychwyn cyntaf".

Ond yn ôl Cefin Roberts o Ysgol Glanaethwy mae'n golygu bod rhai yn dewis peidio cystadlu.

Dywedodd fod "un neu ddau o ddisgyblion wedi penderfynu peidio trafferthu achos bod y rheolau yn tynhau a bod y system mewn ffordd yn gymhleth i fynd trwyddi... Mae o'n bechod".

Mae Dros Ginio hefyd wedi gweld gohebiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan athrawon yn poeni am y sefyllfa ac yn dweud na fyddan nhw yn cystadlu am fod cael yr hawlfraint yn rhy drafferthus.

Ond dyw'r niferoedd sydd yn cystadlu ddim wedi lleihau, yn ôl Llio Maddocks.

image captionMae cael hawlfraint ar gyfer darn o gerddoriaeth yn medru cymryd amser hir, medd Cefin Roberts

Mae'n dweud bod yr Urdd eisiau sicrhau fod cystadleuwyr yn gwybod am y rheolau am fod trafferthion yn gallu codi.

"Yn y blynyddoedd dwytha' 'da ni wedi cael lot mwy o achosion yn yr Eisteddfod Genedlaethol, jest cyn i gystadleuwyr fynd ar y llwyfan, 'da ni yn cael clywed gan gyhoeddwyr bod nhw yn gwrthod caniatâd perfformio neu ddarlledu.

"Felly be' 'da ni yn trio gwneud ydy osgoi'r siom yma i'n cystadleuwyr ni a gwneud yn siŵr bod nhw yn gwirio cyn y perfformiad cyntaf yn y steddfod cylch bod ganddyn nhw'r caniatâd priodol," meddai.

Awgrym Cefin Roberts yw bod yr Urdd yn caniatáu i berson newid y gân rhwng y sir a'r genedlaethol os nad ydyn nhw'n llwyddo i gael yr hawlfraint i berfformio a darlledu'r gerddoriaeth.

"Trio meddwl am ffordd i wneud hi'n rhwyddach i hyfforddwyr a pherfformwyr ddylia ni yn diwedd," meddai.

'Cyfle i waith Cymraeg gwreiddiol'

Mae Llio Maddocks yn dweud bod yr Urdd yn ceisio gwneud y broses mor hawdd â phosib ac wedi cynnig help ymarferol i'r rhai sydd am gystadlu ynglŷn â sut i gael caniatâd hawlfraint.

"Fel mae cyfreithiau yn newid wrth i bethau fynd yn fwy digidol, wrth i YouTube newid a ballu, ella bod isio i ni edrych ar ein rheolau ni i'r dyfodol.

"Ond am rŵan dyma'r sefyllfa a 'da ni jest yn gorfod delio efo fo a dweud y gwir."

Un peth sydd wedi dod i'w sylw yw bod rhai yn penderfynu peidio canu caneuon Saesneg neu o ieithoedd eraill wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg.

Ychwanegodd: "Be 'da ni wedi'i weld ydy pobl yn creu pethau eu hunain, yn cyfansoddi pethau eu hunain ar gyfer cystadlaethau caneuon actol neu hefyd yn defnyddio gwaith Cymraeg, sy'n ddiddorol iawn, achos mae'n haws cysylltu efo gweisg a chyhoeddwyr Cymraeg, ac mae hyn yn rhoi cyfle extra wedyn i waith Cymraeg gwreiddiol gael platfform ychwanegol."

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter

Straeon perthnasol

Hefyd gan y BBC