Ffonau symudol yn achosi stopio opera yng Nghaerdydd

Carlo Rizzi Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth yr arweinydd o'r Eidal, Carlo Rizzi, ddysgu Cymraeg yn ystod ei waith fel cyfarwyddwr cerdd Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 1992 a 2001

Fe wnaeth arweinydd opera yng Nghaerdydd, nos Sadwrn, stopio'r perfformiad ddwywaith wedi i ffonau symudol ganu ymhlith y gynulleidfa.

Roedd Carlo Rizzi yn arwain cynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o Les Vêpres Sicilienes gan Verdi yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm.

Dywedodd aelodau o'r gynulleidfa bod Rizzi wedi stopio'r perfformiad ddwywaith a'i fod wedi dweud wrthynt cymaint oedd sŵn y ffonau yn amharu ar y perfformiad.

Mae opera Verdi wedi'i seilio ar ddigwyddiadau yn Sicily yn 1282.

'Anghyffredin'

Roedd y gantores Sian Meinir yn perfformio yn yr opera ac wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: "Roeddwn i yng nghefn llwyfan ar y pryd ac roedd yna gryn gyffro wedi i'r perfformiad gael ei stopio ddwywaith.

"Mae'n rhywbeth anghyffredin iawn, ond roedd y perfformwyr a'r gynulleidfa yn cefnogi'r arweinydd - mae o'n arweinydd uchel iawn ei barch. Mae o'n gorfod canolbwyntio ar gymaint o bethau gwahanol ac fe wnaeth y gynulleidfa gymeradwyo ei benderfyniad i stopio'r perfformiad."

Image copyright Robin Drayton/Geograph
Image caption Roedd yr opera yn cael ei pherfformio yng Nghanolfan y Mileniwm

Mae'r opera sy'n cael ei chanu gan Opera Cenedlaethol Cymru yn cael ei chyfarwyddo gan Syr David Pountney.

Nid dyma'r tro cyntaf i ffonau symudol achosi cynnwrf mewn perfformiad byw.

Yn 2013 fe wnaeth y pianydd Krystian Zimerman adael cyngerdd yn yr Almaen am fod rhywun yn ffilmio ei berfformiad ar ffôn clyfar.

Y llynedd dywedodd y gantores Madonna y byddai hi'n gwhardd ffonau symudol o'i gigs yn y dyfodol.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cadarnhau bod "seibiannau byr" wedi digwydd yn ystod perfformiad nos Sadwrn a bod Rizzi wedi siarad â'r gynulleidfa wedi i ffôn symudol ganu yr eildro.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol