Pro14: Scarlets 36-17 Southern Kings

Tevita Ratuva Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Tevita Ratuva yn sgorio un o geisiau'r Scarlets yn erbyn Southern Kings

Mae'r Scarlets yn drydydd yn eu tabl yn y Pro14 wedi iddynt drechu Southern Kings o 36-17 gan sicrhau pwynt bonws.

Fe sgoriodd y tîm cartref chwe chais a hynny gan Tevita Ratuva, Ed Kennedy, Ryan Conbeer, Uzair Cassiem, Dan Davis a Tom Rogers.

Fe wnaeth y tîm o Dde Affrica ymateb gyda dau gais gan Howard Mnisi a Christopher Hollis.

Dim ond dau bwynt oedd y Scarlets ar y blaen ar yr hanner (12-10) ac yn fuan yn yr ail hanner roedd yr ymwelwyr ar y blaen (12-17) ond yna roedd y tîm cartref ar dân a daeth pedwar cais a dau drosiad llwyddiannus (gan Dan Jones).

Seren y gêm oedd Josh Macleod.

Mae'r Scarlets felly chwe phwynt y tu ôl i Gaeredin sydd ar frig y grŵp a thri y tu ôl i Munster sy'n ail.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol