'Angen i'r BBC wella'i phortread o'r Gymru gyfoes'

bbc
Image caption Mae staff BBC Cymru eisoes wedi dechrau adleoli i ganolfan ddarlledu newydd ger gorsaf Caerdydd Canolog

Mae pennaeth cwmni cynhyrchu Tinopolis wedi galw ar y BBC i wella'i phortread o'r Gymru gyfoes.

Yn ôl Ron Jones mae angen newid strategaeth, a gwella'r craffu ar y BBC gan wleidyddion.

Wrth ymateb i'r drafodaeth ynglŷn â ffi'r drwydded, dywedodd Mr Jones fod dyfodol y BBC ac S4C yn ddibynnol ar y drefn bresennol.

Dydy'r BBC ddim wedi ymateb yn uniongyrchol i sylwadau Mr Jones, ond wedi dweud ei bod yn croesawu trafodaeth am ei dyfodol.

Fel cadeirydd gweithredol Tinopolis mae Ron Jones yn gyfrifol am filoedd o oriau o raglenni yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Ei gwmni Cymreig sy'n gyfrifol am amryw rhaglenni i S4C gan gynnwys y rhaglen gylchgrawn Heno.

Roedd Mr Jones yn trafod dyfodol ffi'r drwydded yn sgil penderfyniad llywodraeth San Steffan i ddechrau ymgynghoriad allai olygu na fydd hi'n drosedd i beidio talu'r drwydded, ac ar ôl i rai o staff y prif weinidog friffio'r papurau newydd fod y gorfforaeth yn wynebu newidiadau hirdymor i'w chyllideb.

Image caption Yn ôl Ron Jones mae angen newid strategaeth, a gwella'r craffu ar y BBC gan wleidyddion

Dywedodd Mr Jones: "Mae'n rhaid i ni fod yn hunanol yng Nghymru a derbyn, mewn sefyllfa lle mae'r BBC yn llenwi'r bwlch dyw'r farchnad ddim yn gallu llenwi, dim ond rhywbeth tebyg i'r model presennol sydd yn gweithio.

"Beth mae'n rhaid i ni beidio gwneud yw i ddweud wrth y BBC: 'Reit bois, cadwch ati, 'nawn ni eich cefnogi chi'.

"Mae'n rhaid i ni gael gwell dealltwriaeth o beth yw'r gwasanaeth sydd ei angen yng Nghymru, ac mae'n rhaid i ni gael ffurf newydd, fwy democrataidd, o ddelio gyda fel mae'r BBC yn cael ei monitro yng Nghymru."

'Dim trosglwyddo pwerau'

Mae Mr Jones wedi beirniadu rhai rhaglenni Saesneg diweddar BBC Cymru, gan gynnwys Pitching In a The Tuckers gan ddweud bod y cyfresi "yn dangos y disconnect yma rhwng fel mae Cymry yn gweld ei hunain, ac fel mae'r BBC o bryd i'w gilydd yn dewis disgrifio a phortreadu Cymru... ac mae hwnna yn beryglus".

"Dwi ddim yn credu bod dealltwriaeth yn y BBC, yn ogystal, o beth sydd angen nawr ar gyfer defnyddio ei darpariaeth o fewn i Gymru," ychwanegodd.

Doedd BBC Cymru ddim am ymateb yn uniongyrchol i sylwadau Mr Jones.

A thra ei fod am weld mwy o graffu ar y BBC gan wleidyddion Bae Caerdydd, dydy Ron Jones ddim yn cefnogi trosglwyddo pwerau rheoleiddio o San Steffan i Fae Caerdydd.

"Er ar hyn o bryd dwi ddim yn credu bod datganoli darlledu yn opsiwn, fi'n credu bod creu strwythur democrataidd o atebolrwydd tuag at y Cynulliad, yn arbennig, yn rhywbeth mae'n rhaid i ni gael os ydyn ni yn mynd i gefnogi'r BBC o'r hyn mas."

Image caption Cwmni Tinopolis sy'n gyfrifol am y rhaglen 'Heno' ar S4C

Yn sicr mae'r BBC yn chwilio am gefnogwyr.

Ddydd Llun mi wnaeth cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, rhybuddio am ganlyniadau posib y briffio di-enw yn y papurau am y newidiadau all fod ar y gweill.

Ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru, dywedodd Mr Talfan Davies: "Does dim dwywaith bod arian cyhoeddus a buddsoddiad ar y cyd gan bawb wrth wraidd llwyddiant BBC Cymru ac S4C, ac wedi bod am ddegawdau.

"Ac mae'r syniad, fel cenedl, fyddwn ni yn colli'r math o ddarpariaeth mae Radio Cymru a Radio Wales, a BBC One Wales yn eu gwneud - fuasai hynny yn fandaliaeth."

Mewn cyfweliad arall roedd yn fwy cymedrol, ond eto'n pwysleisio'r angen i arian cyhoeddus gefnogi diwylliant Cymreig.

Dywedodd: "Mae yna wastad drafodaeth am y BBC, mae 'na wastad drafodaeth am ffi'r drwydded. A dylwn ni groesawu hynny.

"Ond mae'n rhaid i ni fod yn bwyllog. Mae ffi'r drwydded yn sail i holl weithgaredd BBC Cymru, i holl weithgaredd S4C, ac mae e'n cynnal ac wedi cefnogi diwydiant drama sylweddol yma yng Nghymru hefyd.

Image caption Mae Rhodri Talfan-Davies wedi pwysleisio'r angen i roi arian cyhoeddus i gefnogi diwylliant Cymreig

"Ac felly mae eisiau i ni fod yn ofalus iawn ein bod ni ddim yn tanseilio'r hyn sydd wedi'i gyflawni oherwydd maint y buddsoddiad o ffi'r drwydded i Gymru yn benodol."

Mae S4C yn cyfrannu i'r ymgynghoriad ar a ddylai hi barhau'n drosedd am beidio talu ffi'r drwydded, ac yn tanlinellu faint mae'r gwasanaeth bellach yn ddibynnol arni fel ffynhonnell ariannol.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Bydd y sianel yn bwydo mewn i'r ymgynghoriad ar dad-droseddu peidio talu ffi'r drwydded.

"Mae'n bwysig sylweddoli mai nid y BBC yn unig sy'n cael ei ariannu ohono, ond o 2022 ymlaen bydd y cyfan o gyllideb S4C yn dod o ffi'r drwydded.

"Mae'r BBC hefyd yn darparu 10 awr o raglenni yn ôl statud, sydd hefyd yn cael eu hariannu o ffi'r drwydded."

Yn ôl Ron Jones mae cynnal gwasanaethau'r BBC yn mynd law-yn-llaw gydag unrhyw ymgyrch i ddiogelu S4C.

"Os ydyn ni'n colli'r frwydr dros gael y BBC ry'n ni angen, fydd dim gobaith 'da ni frwydro dros yr S4C ry'n ni angen. Ac mae un mor bwysig â'r llall.

"A dwi ddim yn credu bod y model presennol hyd yn oed, yn y bartneriaeth rhwng S4C a'r BBC, yn un rwy'n or-hapus gyda.

"Ond sgwrs yw hon, brwydr yw hon, am ddyfodol y BBC ac mae'n rhaid i ni ennill y frwydr yna yn gyntaf.

"Ond mae'n rhaid i'r BBC fod lot fwy parod i addasu tuag at anghenion Cymru nag y maen nhw wedi bod yn y gorffennol."

Mae lleisiau cryf yn siapio'r drafodaeth yn barod, a hyn ond yn olygfa agoriadol ar y ddrama dros ddyfodol darlledu Cymreig.

Straeon perthnasol