Hyd at £10m ar gael i bobl yn sgil difrod Storm Dennis

Afon Gwy
Image caption Cafodd rhai trigolion eu symud o'u cartrefi yn Nhrefynwy nos Lun

Bydd rhwng £5m a £10m ar gael i deuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford y byddai'n siarad gyda chynghorau i ganfod y ffordd orau o gefnogi pobl gafodd eu heffeithio gan y stormydd diweddar.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod mwy na 800 o dai a busnesau yng Nghymru wedi'u heffeithio gan Storm Dennis a Storm Ciara.

Ond fe all y ffigwr yna godi am nad yw'r holl ddifrod wedi'i gyfrif eto.

Rhybuddion llifogydd

Mae dau rybudd difrifol am lifogydd - sy'n golygu bod perygl i fywyd - yn parhau mewn grym yn Sir Fynwy wrth i Afon Gwy gyrraedd ei lefel uchaf erioed.

Cafodd rhai trigolion eu symud o'u cartrefi yn Nhrefynwy nos Lun ac fe wnaeth lefel yr afon gyrraedd 7.15m fore Mawrth.

Cyn heddiw, lefel uchaf yr afon erioed oedd 6.48m, a hynny yn 2002.

Mae tri rhybudd llifogydd arall yn parhau mewn grym ar draws Cymru ddydd Mawrth - Ynysgynwraidd ac Osbaston yn Sir Fynwy, a Dyffryn Dyfrdwy Isaf rhwng Llangollen a Wrecsam.

Image caption Mae dau rybudd llifogydd difrifol mewn grym ym Mynwy - y ddwy ochr i Afon Gwy

Mae disgwyl i fwy o law ddisgyn dros rannau helaeth o Gymru ddydd Mercher a dydd Iau, gyda rhybudd melyn mewn grym gan y Swyddfa Dywydd.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sefydlu canolfan yn neuadd y sir yn Nhrefynwy i'r trigolion sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.

Pryder am ddiffyg dŵr yfed

Dywedodd Dŵr Cymru nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at eu safle trin dŵr yn Nhrefynwy oherwydd y llifogydd, ac nad oes pŵer ar y safle ar hyn o bryd.

"O ganlyniad i hyn, mae gennym faint cyfyngedig o ddŵr yfed nes y byddwn yn gallu cael mynediad at y safle ac ailddechrau'r system," meddai llefarydd.

Gofynnodd y cwmni i gwsmeriaid yn yr ardal leihau eu defnydd o ddŵr am y tro.

Ychwanegodd bod gan y cwmni ddŵr potel yn yr ardal, ond bod lorïau yn ei chael yn anodd mynd i mewn i Drefynwy oherwydd y llifogydd.

Image copyright @DwrCymru
Image caption Mae llifogydd yn golygu nad oes pŵer yn safle Dŵr Cymru yn Nhrefynwy
Image copyright Swyddfa Dywydd/Getty Images
Image caption Mae pryder y bydd rhagor o lifogydd yn sgil glaw trwm ddydd Mercher a dydd Iau

Mae rhan fawr o'r A40 rhwng Mynwy a Rhosan ar Wy yn Sir Henffordd ynghau oherwydd y llifogydd.

Mae rhybudd hefyd y bydd trenau yn parhau i gael eu heffeithio'n sylweddol am y trydydd diwrnod yn olynol.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod "difrod sylweddol" i'r rhwydwaith, gan annog teithwyr i fynd ar eu gwefan a gwneud yn siŵr bod eu trên yn rhedeg cyn dechrau ar eu siwrne.

  • Leiniau'r Cymoedd: Aberdâr - yn debyg o fod ar gau am rai dyddiau oherwydd difrod i ddarn tair milltir o'r trac, ac mae gwasanaeth bws yn ei le. Treherbert - bydd y lein ar gau am weddill dydd Mawrth, ac mae gwasanaeth bws yn ei le;
  • Glyn Ebwy - y lein ar gau wedi tirlithriad sydd hefyd wedi cau'r briffordd;
  • Y Fenni - Henffordd, lein ar gau a bydd gwasanaeth bws mewn lle oherwydd llifogydd;
  • Lein Calon Cymru - ar gau, ond fe allai ailagor ddydd Mercher. Gwiriwch y wefan;
  • Lein Dyffryn Conwy - lein ar gau, a bydd gwasanaeth bws yn gweithredu rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog tan y bydd hysbysiad pellach;
  • Lein y Cambrian - bwriad i ailagor ddydd Mawrth, gyda gwasanaeth llawn i ddechrau ddydd Mercher. Bydd trenau'n rhedeg o Amwythog i Fachynlleth, Machynlleth i Aberystwyth a Machynlleth i Bwllheli.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd fe all hyd at 100mm o law ddisgyn mewn mannau rhwng 18:00 ddydd Mercher a 15:00 ddydd Iau.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol