Clirio a chyfri'r gost wedi difrod Storm Dennis

Dynes yn cael ei hachub gan y gwasnaethau brys yn Nantgarw Image copyright PA Wire
Image caption Dynes yn cael ei hachub gan y gwasnaethau brys yn Nantgarw

Mae nifer o gymunedau yn ne Cymru yn cyfri'r gost a chlirio'r difrod yn sgil effaith dinistriol Storm Dennis dros y penwythnos.

Mae nifer o drenau wedi eu canslo a ffyrdd wedi'u cau wedi i rannau o'r wlad weld gwerth mis o law mewn 48 awr.

Cyhoeddodd Heddlu De Cymru ddydd Sul fod y llifogydd yn "ddigwyddiad difrifol" wrth i'r storm gael effaith ar gannoedd o gartrefi a busnesau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n trenu cyfarfod yr wythnos hon yn cynnwys arweinwyr cynghorau a'r gwasanaethau brys i asesu effaith y difrod.

Rhybuddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod dau rybudd difrifol am lifogydd - sy'n golygu perygl i fywyd - dros nos Lun yn Nhrefynwy.

Dywed CNC fod pobl eisoes wedi gadael eu tai yn yr ardal am fod perygl y bydd yr Afon Gwy yn gorlifo - gyda lefel yr afon ar ei uchaf rhwng 03:00 a 07:00 fore Mawrth.

'Canslo trenau yn anochel'

Daeth rhybudd melyn am wynt i ben am 11:00 ddydd Llun ond mae disgwyl glaw trwm eto yn rhannau helaeth o Gymru ganol yr wythnos.

Siroedd Ynys Môn, Y Fflint a Phenfro yw'r unig fannau sy'n debygol o osgoi'r glaw gwaethaf rhwng 18:00 ddydd Mercher a 15:00 ddydd Iau, yn ôl rhybudd diweddaraf y Swyddfa Dywydd.

Dywedodd Bethan Jelphs o Drafnidiaeth Cymru: "Mae llawer o ddifrod wedi bod i'r rhwydwaith drenau ac mae nifer o ffyrdd ar gau sy'n golygu mai cyfyngedig fydd unrhyw wasanaeth bysus.

"Mae'n anochel y bydd gwasanaethau wedi'u gohirio neu ganslo.

"Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu bysus pan yn bosibl lle fydd trenau wedi'u canslo."

Image copyright Lee Dainton
Image caption Roedd modd canŵio ar y cae pêl-droed yma yng Nghwmbrân wedi'r llifogydd

Dydy'r gwasanaethau canlynol ddim ar gael ddydd Llun:

  • Leiniau'r Cymoedd o Gaerdydd - mae llifogydd i'r gogledd o Bontypridd yn golygu na fydd gwasanaethau i Aberdâr, Porth na Merthyr Tudful;
  • Glyn Ebwy - lein Crosskeys ar gau oherwydd tirlithriad;
  • Casnewydd i Henffordd - bydd bysus yn lle trenau gan fod difrod i'r lein oherwydd llifogydd;
  • Lein Calon Cymru - ar gau oherwydd llifogydd yn Nhrefyclo;
  • Dyffryn Conwy - bysus rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog;
  • Lein Cambrian - bysus rhwng Amwythig ac Aberystwyth a rhwng Machynlleth a Phwllheli.

Ychwanegodd Ms Jelphs: "Mae'r sefyllfa yn newid drwy'r amser ac mae'n debyg y bydd newidiadau funud olaf i'r gwasanaethau gydol y dydd.

"Dylai pobl wirio'u taith ar ein gwefan cyn cychwyn."

Image caption Yr ymateb yn Ffynnon Taf wedi i'r gwasanaethau brys alw am ddeunyddiau i helpu y rhai a oedd wedi dioddef yn sgil y storm

Yn Rhondda Cynon Taf, roedd yna ddifrod sylweddol i eiddo yn ardaloedd Pontypridd a Ffynnon Taf gyda cheir a strydoedd dan ddŵr.

Mae'r gwasanaethau brys wedi gwneud cais am ddeunyddiau i helpu dioddefwyr, ac yn Ffynnon Taf mae pentrefwyr wedi llenwi'r clwb rygbi lleol gyda rhoddion.

Fe aeth ystâd ddiwydiannol a meithrinfa dan ddŵr yn llwyr ddydd Sul, gyda'r Little Friends Playgroup yn dweud eu bod wedi "colli popeth" ac y byddai rhieni yn ei chael yn anodd canfod gofal plant rhywle arall yn yr ardal.

Image copyright Wales News Service
Image caption Dywedodd Lauren Forward, sy'n rhedeg y feithrinfa, na fyddai modd adfer gwaith y plant

Ddydd Sul, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn paratoi i roi arian ychwanegol i awdurdodau lleol yn sgil y difrod.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "[Ddydd Llun], yn ôl y rhagolygon tywydd, byddwn yn gallu dechrau gweld beth sydd angen ei wneud i helpu.

"Mae yna niwed i'r isadeiledd ac mae cartrefi unigol wedi cael llifogydd."

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ymweld â Phontypridd a Threhafod yn ystod y dydd i gyfarfod rhai o'r bobl oedd wedi'u heffeithio.

Image caption Pontypridd yn dilyn y glaw nos Sadwrn

Cafodd y storm hefyd effaith ar nifer o ardaloedd eraill gan gynnwys Caerdydd, Sir Fynwy, Castell-nedd, Y Fenni, Crughywel, Caerfyrddin a Llechryd ac yn ogystal bu'n rhaid canslo sawl oedfa mewn capeli yn y gogledd oherwydd y glaw trwm.

Cafodd pentrefwyr yn Nhonna ger Castell-nedd eu cludo o'r pentref ar fysiau fore Sul.

Yn Nantgarw, Rhondda Cynon Taf, roedd dros 100 o gartrefi a dwsinau o geir dan ddŵr dros y penwythnos.

Dywedodd un sy'n byw yno, Susan Fraser, ei bod wedi "edrych i lawr y grisiau yn oriau mân y bore, a gweld soffa yn arnofio ar waelod y grisiau".

"Roedd ein cymuned gyfan dan ddŵr," meddai.

Image caption Mae Darren Hughes yn amcangyfrif y bydd yn colli degau o filoedd o bunnau

Fe wnaeth Darren Hughes o Resolfen, Castell-nedd Port Talbot, agor caffi ychydig fisoedd yn ôl, ac mae'n dweud ei fod wedi colli degau o filoedd o bunnau wedi i Afon Nedd orlifo.

"Mae cymaint wedi'i ddinistrio. Dyma fusnes y teulu - rydw i, fy ngwraig a fy merch yn gweithio yma a nawr does gennym ni ddim byd," meddai.

"Roedden ni'n gwybod ein bod yn debygol o gael ychydig o ddŵr - rydyn ni wedi cael hynny o'r blaen - ond dydw i erioed wedi ei gweld hi mor ddrwg â hyn."

Yng Nghaerdydd mae'r cyngor wedi dechrau'r gwaith clirio wedi i swm sylweddol o weddillion gasglu yn y bae ar ôl cael ei lusgo yno gan Afon Taf.

Image caption Caeau Pontcanna yng Nghaerdydd dan ddŵr

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol