Y Bencampwriaeth: Hull City 4-4 Abertawe

Rhian Brewester Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Rhian Brewester (chwith) pedwerydd gôl a oedd yn edrych fel petai'n cadarnhau buddugoliaeth i Abertawe yn yr ail hanner

Daeth gêm Hull City yn erbyn Abertawe i ddiwedd gyda sgôr gyfartal o 4-4 yng ngêm nodedig Y Bencampwriaeth.

Llwyddodd Tom Eaves o dîm Hull i sgorio 5 munud mewn i amser ychwanegol y gêm, yn cipio gobeithion Abertawe o ennill.

Ar ôl i Leo da Silva Lopes sgorio'n gynnar, llwyddodd Wayne Routledge i ddod â'r sgôr yn gyfartal i 1-1 cyn hanner amser.

Yn yr ail hanner, Marcus Maddison sgoriodd ail gôl i Hull cyn i Kyle Naughton ddod â hi'n gyfartal eto.

Ond yna sgoriodd Jordon Garrick i Abertawe wedi i Mallik Wilks rhoi Hull ar y blaen am y drydydd tro.

Llwyddodd y saethwr Rhian Brewester sgorio gôl a oedd yn edrych fel petai'n cadarnhau buddugoliaeth Abertawe, ond yn y munudau olaf sgoriodd Eaves i ddod a'r gêm yn gyfartal erbyn y diwedd.