Y Bencampwriaeth: Huddersfield 0-3 Caerdydd

Josh Murphy Image copyright Getty Images
Image caption Josh Murphy sgoriodd gôl gynta'r gêm yn dilyn pas gelfydd i'w lwybr gan Lee Tomlin

Cafodd Caerdydd hwb i'w gobeithion o ennill dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair wrth iddyn nhw drechu Huddersfield oddi cartref nos Fercher.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen wedi 28 munud, gyda Josh Murphy yn rhwydo yn dilyn pas gelfydd i'w lwybr gan Lee Tomlin.

Dyblwyd mantais yr ymwelwyr bum munud yn ddiweddarach, gyda'r Cymro Will Vaulks yn rhwydo heibio i'r golwr Jonas Lössl.

Fe wnaeth Callum Paterson selio'r fuddugoliaeth i Gaerdydd wrth iddo sgorio trydedd gôl ei dîm gydag 20 munud yn weddill.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y clwb o'r brifddinas yn codi yn ôl i'r wythfed safle yn y Bencampwriaeth, bedwar pwynt o safleoedd y gemau ail gyfle a saith pwynt yn unig o'r ail safle.

Straeon perthnasol