Protest yn y Senedd dros ddyfodol adran frys ysbyty

Protest

Roedd cannoedd o bobl mewn protest tu allan i'r Senedd ym mae Caerdydd ddydd Mercher, yn gwrthwynebu'r cynllun i gau adran frys ysbyty.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, mae prinder meddygon yn golygu eu bod yn gorfod ystyried cau adran frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant yn gyfan gwbl neu dros nos.

Pleidleisiodd aelodau cynulliad yn erbyn cynllun y bwrdd iechyd, ond nid yw'r bleidlais yn orfodol ar y bwrdd nac ar Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y dylai'r penderfyniad terfynol gael ei wneud gan benaethiaid clinigol.

Dywed y bwrdd iechyd fod angen gweithredu er mwyn osgoi "risg i ddiogelwch cleifion".

Gweinidog iechyd

Cafodd gynnig gan y Ceidwadwyr i wrthwynebu'r cynllun israddio ei gefnogi gan ACau yn y Senedd.

Roedd yna 32 pleidlais o blaid, un yn erbyn ac fe wnaeth 18 ymatal eu pleidlais, ond gan mai pleidlais symbolaidd oedd e does dim rhaid i'r bwrdd iechyd na Llywodraeth Cymru weithredu'r canlyniad.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething fod angen i'r gwleidyddion oedd yn gwrthwynebu newid y drefn bresennol wynebu "realiti" problemau recriwtio.

"I'r rhai hynny sydd, yn ddealladwy, o fewn y siambr hon a thu allan am weld gwasanaeth 24 awr yn parhau yn adran frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac wedi ei arwain dan ofal ymgynghorydd, rhaid iddyn nhw wynebu'r realiti o a oes modd iddyn nhw recriwtio staff i gynnal y gwasanaeth yna yn ddiogel ac effeithiol," meddai.

"Y broblem sydd yn ein hwynebu i gyd ydi os na allwn recriwtio'r nifer cywir o ymgynghorwyr llawn amser i gynnal y gwasanaeth yna ni fydd modd i ni wneud hynny."

Canoli gwasanaeth

Cafodd y penderfyniad i ganoli'r gwasanaeth gofal brys ei wneud yn 2015, ond hyd yn hyn nid yw'r penderfyniad terfynol wedi ei wneud.

Wrth annerch y dorf o flaen y Senedd, dywedodd aelod seneddol Llafur y Rhondda, Chris Bryant: "Rydym i gyd yn gwybod ma'r unig ffordd i gadw pawb ar draws yr ardal yn ddiogel yw i gael gwasanaeth gofal brys llawn yn y tri ysbyty.

"Fyddwn ni yn y Rhondda byth yn rhoi fyny...byddwn yn ymladd ac ymladd ac ymladd am y gwasanaeth rydym yn gwybod fydd yn achub bywydau."

Wrth annerch y brotest, dywedodd yr AC Ceidwadol Andrew RT Davies y dylai Llywodraeth Cymru orchymyn y bwrdd iechyd i gadw'r gwasanaeth ar agor.

Dywedodd y bydd pobl yn colli eu bywydau os bydd yr adran frys yn cau.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wrth y dorf: "Y mwyaf bregus sy'n diodde pan mae adran frys yn cau.

Gwasanaeth Iechyd y bobl yw hwn. Dyw'r grym ddim yn yr adeilad yma nac y y bwrdd iechyd all ein gorchfygu.

"Fe fydd pobl yn marw'n ddiangen oherwydd gwirioneb y cynnig yma."

Diffyg meddygon

Mae lefelau staffio yn unedau brys Cwm Taf - yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr, ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn is na safonau disgwyliedig ar hyd y DU.

Ar ddydd Nadolig a dydd San Steffan roedd yn rhaid ail-gyfeirio ambiwlansys o Ysbyty Brenhinol Morgannwg i Ysbyty Tywysog Charles oherwydd diffyg meddygon ar y safle.

Fe wnaeth y sefyllfa yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddirywio'n ddiweddar wedi i unig ymgynghorydd gwasanaeth brys yr ysbyty ymddiswyddo, gan olygu fod cynlluniau i israddio'r gwasanaeth wedi eu cyflymu.

Image copyright Google
Image caption Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant

Dywedodd y bwrdd iechyd fod ymddeoliad yr ymgynghorydd, ynghyd â phrinder meddygon gradd ganol, yn golygu nad oedd modd cynnal y tri gwasanaeth brys ar y tri safle "yn bellach na'r dyfodol agos".

Mae'r adran frys agosaf at Lantrisant ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd 14 milltir i ffwrdd. Mae'r adran frys ym Merthyr 21 milltir i ffwrdd.

Dywedodd y bwrdd iechyd y byddai pob ymdrech yn cael eu gwneud i weld os oes modd parhau gyda'r drefn bresennol.

Dadansoddiad gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke

Gallai ymddangos yn rhyfedd i wleidyddion Llafur ymuno â'r feirniadaeth o'r penderfyniad i israddio adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

"Onid Llafur sy'n rhedeg GIG Cymru?" medd eu gwrthwynebwyr.

Ond dyw'r ffaith bod e'n digwydd ddim yn syndod. Yn wir, fe ddigwyddodd pan gafodd y cynigion eu trafod yn y lle cyntaf bum mlynedd yn ôl.

Maen nhw'n gwybod taw prin yw'r materion sy'n bwysicach i'w hetholwyr na gwarchod y gwasanaethau GIG maen nhw wedi cael erioed.

Ond dydy hynny ddim yn newid y darlun ehangach. Os nad oes gyda chi ddigon o feddygon i redeg gwasanaeth diogel, ac os na allech chi eu recriwtio - be' wnewch chi?

Fe wnaiff gwleidyddion o bob lliw ddweud wrthych chi yn breifat na allai'r GIG sefyll yn ei unfan - mae'n rhaid i bethau newid.

Ond fe fyddai'n well gyda nhw o lawer i'r newidiadau mwyaf dadleuol ddigwydd unrhyw le arall nag eu hetholaeth eu hunain.

Ond mae ceisio osgoi canlyniadau penderfyniadau dadleuol yn creu perygl o sefyllfa ble does dim byd yn newid o gwbl.

Straeon perthnasol