Cychwyn gwaith £300,000 ar hen gapel Pontarfynach

adfeilion y capel

Mae'r gwaith o atgyweirio capel Pontarfynach yng Ngheredigion wedi dechrau.

Daw hyn ar ôl i Fenter Gymunedol Mynach Cyfyngedig sicrhau arian grant gwerth dros £325,000.

Mae'r cynllun yn cynnwys gofod digwyddiadau a gweithgareddau, cegin a thoiledau yn ogystal ag ardal i gynnal y gwasanaethau traddodiadol.

Yn ôl y Loteri Genedlaethol, sydd wedi cyfrannu £156,400, "y gymuned a'r bobl sydd ynghlwm â'r prosiect" sydd wrth wraidd y buddsoddiad.

Image caption Tocynnau o gyngerdd yn y capel yn 1899, a oedd wedi bod o dan blanciau'r llawr ers dros 100 mlynedd

Fe gafodd y capel, dan enwad y Methodistiaid Calfinaidd, ei adeiladu yn 1858.

Yn 2016, fe gafodd yr adeilad ei brynu gan y gymuned leol am £30,000.

Mae'r cynlluniau newydd yn golygu bod modd cadw addoldy yn y pentref yn ogystal â chynnig hwb cymunedol i'r ardal.

Mae cyfuno'r hen a'r newydd yn golygu creu cynllun unigryw sy'n cynnwys rhoi'r allor ar olwynion.

Bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei gwblhau dros chwe mis, gyda'r cynlluniau'n gwireddu "breuddwyd" y fenter leol.

'Rhywbeth i'r gymuned ehangach'

Dywedodd Mair Davies, sy'n aelod o bwyllgor Menter Gymunedol Mynach Cyf.: "Does dim gormod o aelodau gyda ni ar hyn o bryd, dim ond tua 10 sydd yma ar ddydd Sul, ac mae addasu'r lle yn mynd i gynnig rhywbeth i gymuned ehangach.

"Does dim neuadd yn y pentref, na gofod i bobl leol ei ddefnyddio. Ar ôl gorffen, bydd Merched y Wawr yn gallu'i ddefnyddio fe, y ffermwyr ifanc a phlant ysgol.

"Bydd addasu yn dod â fe lan i'r unfed ganrif ar hugain."

Image caption Dywedodd Mair Davies y byddai'r gymuned ehangach yn elwa o'r gwaith

Mae grant gwerth £156,400 wedi ei sicrhau trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, £150,000 mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru trwy raglen cyfleusterau cymunedol, gyda £25,000 yn ychwanegol yn dod gan Gronfa Ymddiriedolaeth Gymunedol Cefn Croes.

Yn ôl Deian Creunant, sy'n cynrychioli'r Loteri Genedlaethol, y "gymuned sydd wrth wraidd y buddsoddiad".

"Un o'r pethau yn sicr ni'n edrych arno yw'r modd mae'r gymuned yn dod yn rhan o'r ffordd mae'r dreftadaeth yna'n cael ei gadw'n fyw," meddai.

"Mae'r gymuned wedi adnabod y posibiliadau, wedi sylweddoli pa mor bwysig yw'r hanes a'r dreftadaeth ond hefyd wedi sylweddoli bod angen gwneud rhywbeth ychydig bach yn wahanol er mwyn ei gadw fe'n fyw a'i gynnal ar gyfer y dyfodol."

Pynciau Cysylltiedig