Y bardd T Graham Williams wedi marw yn 84 oed

T Graham Williams Image copyright Llun teulu
Image caption Llwyddodd T Graham Williams i ennill 86 o gadeiriau mewn gwahanol Eisteddfodau

Mae'r bardd a'r darlithydd T Graham Williams wedi marw yn 84 oed.

Roedd Mr Williams - oedd yn cael ei adnabod gyda'i enw barddol, Cefnfab - yn fardd toreithiog, a lwyddodd i ennill 86 o gadeiriau mewn gwahanol Eisteddfodau.

Fe wnaeth y gŵr o Gefn-bryn-brain, Cwm Tawe, hefyd ennill pedair coron am lenyddiaeth a channoedd o dlysau am adrodd.

Dywedodd ei fab, Chris Williams ei fod yn "Gymro i'r carn, yn llysgennad gwir i'r wlad ac fe hyrwyddodd Gymru a'r Gymraeg ble bynnag yr aeth".

Cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd yn 2006 am ei gyfraniad i Eisteddfodau a'i waith yn hyrwyddo diwylliant Cymru a'r iaith.

'Dyn hoffus a diddorol'

Am ddegawdau bu'n perfformio sioe un-dyn ar weithiau Dylan Thomas ledled Cymru a'r DU, yn ogystal â'r Unol Daleithiau a Barbados.

Fe ymddangosodd hefyd mewn ffilmiau, ar deledu a radio, ac yn darlithio ym Mhrifysgol Abertawe ac yr Academi Gymreig.

Fe wnaeth y darlledwr Garry Owen ei ddisgrifio fel "un o gymwynaswyr mawr yr eisteddfodau lleol".

"Roedd Cefnfab yn un o gefnogwyr brwd yr eisteddfodau lleol, ac yn ddyn hoffus a diddorol eithriadol," meddai.

"Roedd gen i barch mawr iddo fe fel un oedd yn meddu ar arddull unigryw a diffuant iawn.

"Roedd e yn angerddol yn ei ymroddiad i lenyddiaeth a hanes."

Bydd ei angladd yn cael ei chynnal yn Eglwys St Margaret yng Ngwmllynfell, Castell-nedd Port Talbot ddydd Gwener am 12:00.

Pynciau Cysylltiedig