Dartiau: Gwobr ariannol pencampwr byd 'yr isaf ers 1989'

Wayne Warren
Image caption Dywedodd Wayne Warren bod y newyddion wedi ei "frifo"

Bydd pencampwr byd Sefydliad Dartiau Prydain (BDO), Wayne Warren yn derbyn £23,000 am ennill teitl 2020 - sydd 77% yn llai na'r enillydd blaenorol.

Daeth y Cymro'n bencampwr dartiau hynaf y byd ar ôl curo Jim Williams 7-4 yn rownd derfynol y BDO ddydd Sul.

Ei enillion yw'r isaf ers rownd derfynol 1989, pan gurodd Jockey Wilson Eric Bristow ac ennill £20,000.

Derbyniodd yr holl enillwyr rhwng 2010 a 2019 wobr o £100,000.

Mewn cymhariaeth, fe dderbyniodd Peter Wright £500,000 am ennill Pencampwriaeth Dartiau'r Byd PDC ar ddechrau mis Ionawr.

Image copyright Rex Features
Image caption Mae Wayne Warren yn döwr yn ei waith pob dydd

Mewn llythyr a gafodd ei anfon at y chwaraewyr, mae cadeirydd y BDO, Des Jacklin, yn esbonio fod diffyg nawdd wedi arwain at ostyngiad yn y gronfa wobr eleni.

Mae'n mynd yn ei flaen i ddweud bod yr ymgynghorwyr masnachol Sportotal wedi methu a sicrhau nawdd, a'r penderfyniad o'u blaenau oedd i un ai leihau'r gronfa ariannol ar gyfer y gwobrau neu i ganslo'r digwyddiad yn gyfan gwbl.

Wrth ymateb dywedodd Mr Warren ei fod wedi cael ei "frifo" am nad oedd yn gwybod beth oedd gwerth y gronfa ac ychwanegodd y byddai hyn yn ei orfodi i ymddangos mewn mwy o gemau arddangos.

Roedd y BDO wedi dweud eisoes y byddai eu cronfa gwobrau ar gyfer Pencampwriaeth y Byd yn cael ei "leihau rhywfaint" ar ôl iddyn nhw werthu dim ond 15% o'u tocynnau.

Mae'r BDO wedi cael cais i ymateb i'r stori.

Gwobrau'r BDO 2020

Cronfa'r Dynion:

Enillydd: £23,000

Ail safle: £10,000

Rownd gyn-derfynol: £5,000

Rownd go gyn-derfynol: £4,000

16 olaf: £3,000

Cronfa'r Merched:

Enillydd: £10,000

Ail safle: £4,500

Rownd gyn-derfynol: £2,000

Rownd go gyn-derfynol: £1,000

16 olaf: £500

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol