Yr haul yn ail-ymddangos mewn pentref ar ôl chwe wythnos

Image caption Yr haul yn ceisio dod allan tu cefn i'r cymylau a Chrib Goch

Mae'n wythnos nodedig mewn un pentref yng ngogledd Cymru gan fod yr haul yn ôl yno am y tro cyntaf ers mis a hanner.

Mae Nant Peris yn cysgodi yng nghrud Dyffryn Peris, a'r mynyddoedd yn codi fel waliau ar ddwy ochr, a'r ffordd tua'r de-ddwyrain yn codi tuag at Pen-y-Pas a llwybrau'r Wyddfa.

Ond un anfantais o fod yng nghanol harddwch Eryri ydi bod yr haul yn is na'r mynyddoedd am gyfnod dros y gaeaf ac felly mae'n amhosib ei weld.

Yr wythnos yma, mae'n ôl - am gyfnod byr bob dydd o leiaf, a'r amser yn cynyddu wrth i'r wythnosau fynd yn eu blaenau.

Shirley Davies a Margaret Ellis
Image caption Shirley Davies a Margaret Ellis

Mae Shirley Davies a Margaret Ellis wedi hen arfer gyda'r ffaith - fe fagwyd y ddwy yn y pentref, cyn magu eu teuluoedd eu hunain yno.

Iddyn nhw mae un diwrnod yn Ionawr yn sefyll allan yn y calendr ers iddyn nhw fod yn blant.

"13 Ionawr da ni'n gweld yr haul eto ar ôl y gaeaf," meddai Margaret Ellis.

"Mae o i'w weld am ddau funud ar groes fach ar dop yr eglwys. Dyna'r traddodiad - dyna oedd yr hen bobl yn arfer dweud hefyd. Ond does 'na ddim haul ar 13 Ionawr bob tro i chi fedru ei weld o chwaith."

Eglwys Nant Peris
Image caption Dim haul ar groes yr eglwys heddiw - diolch i'r cymylau

"Mae o i ffwrdd am tua chwe wythnos. Yn y bore mae o tu cefn i ni, ac o dan lefel y mynydd, wedyn mae'n dod rownd gyda'r nos ond mae'r Wyddfa a Chrib Goch o'n blaenau ni felly tyda ni'm yn gallu gweld yr haul am gyfnod gan ei fod yn isel yn yr awyr - mae o o dan y mynydd."

Mae hi a Shirley Davies yn byw ar ochr ddwyreiniol y ffordd sy'n mynd drwy ganol y pentref - ac felly'n cael mwy o haul nag ochr arall y pentref unwaith mae'n ail-ymddangos ar ôl y gaeaf.

Diolch i storm Brendan, doedd dim posib gweld yr haul o gwbl ar Ionawr 13 na 14 - fel rhan helaeth o Gymru. Roedd y tywydd yn llawer gwell ar 15 Ionawr, ond roedd rhaid brwydro gyda'r cymylau.

Nant Peris
Image caption Cynffon storm Brendan yn Nant Peris ddechrau'r wythnos...
Nant Peris
Image caption ... a'r pentref wedi goleuo ar ôl i'r tywydd garw fynd heibio

Meddai Shirley Davies: "Ar 13 Ionawr, 'da ni'n gweld yr haul yn dod lawr Elidir Fawr, mae o'n dod yn agosach ac agosach bob dydd - pan mae yna haul o gwmpas.

"Mae'n cymryd dipyn go lew o amser i ddod lawr y dyffryn i gyd - mae hynny wedi digwydd erbyn tua mis Mawrth mae'n siŵr.

"Pan mae'n rhewi tydi o ddim yn dadmer. A barrug - tydi o byth yn codi fan yma yn y gaeaf, mae'n para am hydoedd, ac yn codi fel niwl.

"Mae'n siŵr bod 'na lefydd eraill yng Nghymru yr un fath."

'Angen Fitamin D i bawb yn Nant'

Gall diffyg haul gael effaith ar iechyd corfforol a meddyliol. Mae'r ddwy yn ymwybodol o hynny ac ar ddyddiau llwm maen nhw'n mynd i chwilio am y pelydrau.

Meddai Shirley Davies: "Mae o yn effeithio ar bobl, mae o'n gallu bod yn le mwll yn y gaeaf ac mae o'n gwneud pobl yn isel. 'Da ni angen Fitamin D i bawb ohono' ni yn Nant.

"Weithiau 'da ni'n mynd am dro at yr haul. Weithiau ti'n edrych lawr y dyffryn a wnâi ddweud 'o mae'n edrych yn neis lawr yn fana' felly da ni'n mynd yn y car neu ar y bws.

"Wawn ni fynd i Gaernarfon, a weithiau ti'n cyrraedd Llanberis a ti'n gweld yr haul a ti'n meddwl 'o am braf'."

Nant Peris
Image caption Yr haul ar lethrau Elidir Fawr, uwchben pentref Nant Peris

Fel brodorion o'r pentref, mae'r ddwy yn dweud eu bod wedi hen arfer efo'r lleoliad a'r tymhorau erbyn hyn - a bod manteision o fyw yn y pentref hefyd.

Meddai Margaret Ellis: "Mae'n iawn yn yr haf. Lle dwi'n byw, yn yr haf, dwi'n cael lot o olau - gyda'r nos hefyd pan mae'r haul yn dod dros Gastell Dolbadarn ac i fyny'r dyffryn, mae'n braf iawn."

Ac mae ei chyfaill yn cytuno: "Tydi'r gaeaf ddim yn effeithio arno' ni gymaint achos da ni wedi arfer efo fo.

"Y rheswm ti'n dod i Nant ydi i gael llonyddwch. Mae'n braf iawn yma yn yr haf yn enwedig - yng nghanol y mynyddoedd."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig