BBC Cymru Fyw

Cyngor yn awgrymu tâl o £2 am yrru i ganol Caerdydd

Published
image copyrightLlywodraeth Cymru
image captionDarlun artist o sut mae Cyngor Caerdydd yn gobeithio y bydd Stryd y Castell yn edrych yn y dyfodol

Mae cynnig i godi tâl o £2 ar yrwyr sy'n dod i mewn i ganol Caerdydd wedi ei gynnwys yng nghynlluniau trafnidiaeth y cyngor am y ddegawd nesaf.

Cyrraedd targedau aer glân yw nod cynigion papur gwyn Cyngor Caerdydd wedi i ymchwil ddangos bod safon aer y ddinas ymhlith y gwaethaf trwy'r DU.

Llundain a Durham yw'r unig ddinasoedd yn y DU sy'n codi tâl ar yrru i ganol y ddinas ar hyn o bryd, ond mae Birmingham, Manceinion a Chaeredin un ai yn ei ystyried neu wedi ei drafod yn y gorffennol.

Dywed y cyngor y byddai'r arian sy'n cael ei godi'n cael ei fuddsoddi mewn gwella trafnidiaeth gyhoeddus.

  • 'Trafnidiaeth yn tanseilio twf Caerdydd'
  • Talu i yrru i ganol Caerdydd?
  • Gweledigaeth i leihau traffig Caerdydd

Mae arweinwyr y cyngor yn cydnabod bod rhwydwaith trafnidiaeth y ddinas yn "gwegian" a ddim yn ffit i bwrpas mwyach.

Maen nhw hefyd yn awgrymu cyflwyno bysus cyflym newydd, gan gynnwys llwybr gylchol, ac mae'r cyngor eisiau cydweithio gyda chwmnïau bws i dorri'r gost o deithio arnyn nhw i £1.

Mae ymgyrchwyr iechyd a'r amgylchedd wedi galw am godi tâl ar yrwyr yng Nghaerdydd wrth i bryderon godi am lefel y llygredd aer yn y brifddinas.

Yn ôl adroddiad gafodd ei gomisiynu gan y cyngor, bydd Stryd y Castell yn torri'r uchafswm cyfreithiol ar gyfer lefel y llygredd aer erbyn 2021 os nad oes cynllun mewn lle i leihau allyriadau gan gerbydau yn y ddinas.

image copyrightCyngor Caerdydd
image captionMae cynllun am reilffyrdd tram-trên yn rhan o ddatblygiadau Metro De Cymru
image copyrightCyngor Caerdydd
image captionByddai hefyd yn cynnwys rheilffordd sy'n mynd o amgylch y ddinas

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gymeradwyo cynlluniau gwerth £21m gan Gyngor Caerdydd yr wythnos ddiwethaf i weithredu cyfres o fesurau ar gyfer gwella ansawdd aer.

Mae'r cynlluniau hynny'n cynnwys aildrefnu ffyrdd canol y ddinas, gwneud bysiau a thacsis yn fwy gwyrdd a'i gwneud yn haws i bobl gerdded a seiclo o amgylch y ddinas.

Byddai'n rhaid i unrhyw gynllun i godi tâl ar yrwyr gael caniatâd Llywodraeth Cymru pe bai cabinet Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo'r syniad yn y dyfodol.

Fe wnaeth Cyngor Caerdydd wrthod cynnig am "ardal aer glan" y llynedd - fyddai wedi gweld gyrwyr ceir sy'n rhyddhau llawer o allyriadau yn gorfod talu am yrru i ganol y ddinas.

Ond y gred yw y bydd y papur gwyn yn codi tâl ar yr holl geir petrol a disel sy'n defnyddio canol y ddinas, gyda'r arian fyddai'n cael ei godi yn cael ei wario ar drafnidiaeth gyhoeddus.

image captionMae'r cyngor yn bwriadu cydweithio â chwmnïau bysiau i ddod â'r gost o deithio ar fysiau i £1

Mae mudiadau aer glân wedi croesawu'r cynnig i godi tâl am yrru yng nghanol y ddinas, gan ddweud y bydd yn creu dinas "lanach, mwy diogel a deniadol".

"Mae hyn yn golygu lleihau allyriadau i fynd i'r afael â newid hinsawdd, gwella safon yr aer i warchod ein hiechyd," meddai Haf Elgar o Awyr Iach Cymru.

"Mae'n rhaid i ni weld newid yn y ffordd rydym yn meddwl ynghylch teithio a gallwn ni ond wneud hynny trwy gyflwyno camau beiddgar a fydd yn helpu pobl i wneud y dewisiadau gorau iddyn nhw.

"Mae hefyd yn addawol i weld y bydd y tâl am ddefnyddio ffyrdd ar draws y ddinas yn cael ei gefnogi gan well trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith teithio actif, a fydd yn chwarae rhan annatod mewn gwneud symud at ddulliau teithio cynaliadwy'n rhatach ac yn gyraeddadwy."

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n amcangyfrif bod llygredd aer yn gyfystyr â marwolaethau dros 220 o bobl ifanc dan 30 oed bob blwyddyn. ac mae hefyd yn cefnogi gwahardd cerbydau disel "i sicrhau'r aer glanaf bosib".

image copyrightGetty Images
image captionMae Caerdydd ymysg y dinasoedd gwaethaf yn y DU am safon yr aer

Mae 'na rybuddion bod cysylltiadau trafnidiaeth gwael Caerdydd wedi dod â'r ddinas i "sefyllfa beryglus iawn".

Does dim gorsaf fysiau ganolog ers 2015, a does dim disgwyl i un newydd agor tan 2023.

Mae gorsaf Caerdydd Canolog dros gapasiti ac mae cynlluniau gwerth £58m i'w huwchraddio, a bydd hi'n 2023 o leiaf cyn y bydd rhwydwaith integredig Metro De Cymru - cynllun gwerth £738m - yn agor.

'Bwydo'r bwystfil'

Dywedodd un fu'n rhan o ddyfeisio cynllun Metro De Cymru bod "rhaid ystyried codi tâl mewn rhyw ffordd", ar y cyd â buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus.

Yn ôl yr Athro Mark Barry mae codi tâl am ddefnyddio rhai ffyrdd, neu am lefydd parcio cwmnïau, yn syniadau sydd angen eu hystyried.

"Mae'n rhaid i ni fod yn fwy uchelgeisiol am y cynlluniau wrth symud ymlaen, nid yng Nghaerdydd yn unig, ond drwy'r rhanbarth," meddai.

"Ond hefyd mae'n rhaid i ni fod yn onest gyda phobl, allwn ni ddim parhau i fwydo'r bwystfil 'ma drwy roi mwy o le ar y ffyrdd i bobl a mwy o ryddid i bobl yrru ceir i bobman, heb adlewyrchu'r gost lawn."

Pynciau Cysylltiedig

  • Amgylchedd
  • Cyngor Dinas Caerdydd
  • Caerdydd

Straeon perthnasol

  • 'Trafnidiaeth wael yn tanseilio twf Caerdydd'