Dynes ag 'anafiadau pen difrifol' tu allan i ganolfan hamdden Wrecsam

Plas Madoc Image copyright Google

Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i ddynes 44 oed gael ei chanfod ag "anafiadau pen difrifol" tu allan i ganolfan hamdden.

Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad tu allan i Ganolfan Hamdden Plas Madoc yn Wrecsam tua 17:00 ddydd Llun.

Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Maelor Wrecsam mewn ambiwlans ond nid yw'n glir pa mor ddifrifol yw ei hanafiadau.

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion.

Pynciau Cysylltiedig