Ymgynghori eto ar gynllun uno ysgolion yn Ynys Môn

Ysgol Bodffordd Image copyright Google
Image caption Mae dros 80 o blant ar gofrestr Ysgol Bodffordd

Mae cynghorwyr ar Ynys Môn wedi pleidleisio dros ymgynghori eto ar ailstrwythuro ysgolion y sir dros y flwyddyn nesaf, gan ddechrau yn ardal Llangefni.

Fe wnaeth aelodau pwyllgor craffu'r Cyngor Môn gymeradwyo'r cynllun gwreiddiol i gau ysgolion cynradd Bodffordd a Thalwrn, er gwaethaf gwrthwynebiad.

Cafodd cynlluniau tebyg eu hatal y llynedd gan fod swyddogion y cyngor heb gydymffurfio â chanllawiau sy'n gorfodi awdurdodau addysg i ystyried pob opsiwn cyn cau ysgolion gwledig.

Mae ymgyrchwyr wedi protestio yn erbyn y cynnig i gau'r ddwy ysgol a symud disgyblion, yn eu tro, i Ysgol Corn Hir ac Ysgol y Graig yn Llangefni.

Ond pwysleisiodd y cyngor ei bod hi'n "hanfodol" i wneud y defnydd gorau bosib o'r arian sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i uwchraddio adeiladau ysgolion.

Dan y cynlluniau byddai Ysgol Corn Hir yn cael adeilad newydd gwerth £10m a byddai estyniad newydd gwerth £6m yn cael ei godi ar safle Ysgol Y Graig.

'Plant yn hapus'

Ddydd Mawrth fe wnaeth y pwyllgor craffu bleidleisio o blaid edrych eto ar y cynlluniau, ac fe fydd y pwyllgor gwaith yn penderfynu ar 20 Ionawr os ydyn nhw am ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus newydd.

Cafodd galwadau i edrych eto a ffederaleiddio ysgolion Bodffordd a Thalwrn, yn hytrach na'u cau, eu gwrthod.

Un o'r rhieni sydd â phlant yn Ysgol Bodffordd, ac yn gwrthwynebu'r posibilrwydd o orfod eu symud i Ysgol Corn Hir, yw Llinos Roberts.

"Mae 'na dros 80 o blant yn yr ysgol, ma'r athrawon i gyd yn cydweithio ac ma'r plant i gyd yn hapus yna hefyd felly dwi methu dallt be' 'di'r broblam cadw hi ar agor," meddai.

Image caption Mae'r cynigion yn cael eu trafod gan bwyllgor craffu yn y lle cyntaf, ac yna gan y pwyllgor gwaith

Dywedodd is-gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Corn Hir, Rhian Williams, bod neb eisiau gweld yr un ysgol yn cau, ond bod angen rhoi ystyriaeth hefyd i gyflwr a chapasiti'r adeiladau presennol.

"Ysgol Corn Hir oedd cychwyn y daith yma - i ga'l ysgol newydd ac i ga'l lle i'r plant sy'n ei mynychu hi," meddai.

"Ond rhywsut neu'i gilydd fe gollon ni'n llais flwyddyn dwytha' yng nghanol yr holl betha' oedd yn codi.

"'Dan ni'n teimlo, 'plîs, tro 'ma, gwnewch yn siŵr bod 'na le i'r plant bach 'ma sy'n mynychu'r ysgol yma i'r dyfodol'."

'Cwyn yn anochel'

Mewn ymateb i benderfyniad y pwyllgor dywedodd Cymdeithas yr Iaith, sydd o blaid ffederaleiddio'r ysgolion, fod angen treulio mwy o amser er mwyn dod i gonsensws.

"Mae cytundeb bod angen buddsoddiad yn Llangefni, ond mae hefyd cefnogaeth sylweddol i'r ysgolion pentrefol ym Modffordd a Thalwrn," meddai Ffred Ffransis o'r mudiad.

Ychwanegodd: "Yn anffodus, gan fod Cyngor Môn wedi gwneud yn glir eu bod nhw'n ceisio pob dull i sicrhau eu bod yn cau'r ysgolion, mae'n anochel bydd cwyn yn erbyn y cyngor ar ddiwedd y broses am beidio â chydymffurfio â'r cod cenedlaethol.

"Bydd hyn yn gohirio'n fwy eto'r buddsoddiad sydd ei angen yn Llangefni ac yn parhau'r ansicrwydd i gymunedau Bodffordd a Thalwrn."

Image copyright Google
Image caption 40 o ddisgyblion sy'n cael addysg yn Ysgol Talwrn ar hyn o bryd

Dywed swyddogion cyngor eu bod yn ffyddiog bod y cynigion newydd yn cydymffurfio'n llwyr â'r Cod Ad-drefnu Ysgolion.

"Nod ein rhaglen foderneiddio yw creu'r amgylchedd addysgol gorau posibl ar gyfer athrawon, staff a'r holl ddisgyblion i allu llwyddo ac felly hyrwyddo safonau uchel," meddai'r Cynghorydd Meirion Jones - yr aelod o'r pwyllgor gwaith sy'n gyfrifol am addysg.

"Nid yw newid pob amser yn hawdd, ac mae'r rhaglen moderneiddio ysgolion, hyd yma, wedi bod yn heriol iawn. Mae wedi golygu gwneud penderfyniadau anodd a chau rhai ysgolion cynradd.

"Mae hefyd wedi ein galluogi ni i fuddsoddi swm sylweddol o £22m mewn addysg ar yr ynys drwy adeiladu tair ysgol newydd ar gyfer cenedlaethau presennol a'r dyfodol."

Bydd cynlluniau ar wahân yn cael eu hystyried maes o law mewn cysylltiad ag ad-drefnu ysgolion yn ardaloedd Biwmares ac Amlwch.

Straeon perthnasol