BBC Cymru Fyw

Rhybudd y gallai cerrig bedd peryglus gael eu symud

Published
image copyrightAlan Hughes / Geograph
image captionMae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn adolygu eu polisi presennol

Gallai cerrig beddi gael eu symud o fynwentydd pe na bai nhw'n cwrdd â safonau diogelwch.

Tra bod rhai cynghorau sir eisoes â pholisïau yn ymwneud â hyn, mae eraill yn cyflwyno rhai newydd wedi marwolaeth chwech o bobl, gan gynnwys bachgen wyth oed o Glasgow.

Yn ystod y dyddiau nesaf fe fydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnal nifer o ddiwrnodau agored i ateb cwestiynau ar y pwnc.

Fel rheol mae cynghorau yn ceisio cysylltu â pherchnogion neu roi nodyn rhybudd cyn gweithredu.

Dywed Cyngor Castell-nedd Port Talbot y byddant yn cyflwyno polisi newydd yn ddiweddarach yn y mis.

Yn ôl llefarydd daw hyn yn sgil marwolaethau chwech o bobl yn y DU yn y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Ciaran Williamson, wyth oed, gafodd ei wasgu i'w farwolaeth gan garreg fedd saith troedfedd o uchder yn Glasgow yn 2015.

image copyrightHedlu'r Alban
image captionBu farw Ciaran Williamson ym mis Mai 2015

Y darlun yng Nghymru

MaeCyngor Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am naw o fynwentydd - yn eu plith Margam, Goytre, Cymer, Ynysymaerdy, Onllwyn, Carmel a Godre'r-graig.

Dywed y cyngor eu bod yn deall bod y pwnc yn un anodd ond bod rhaid cydbwyso pwysigrwydd teimladau teuluoedd gyda'r angen i sicrhau diogelwch.

Y cam cyntaf fyddai nodi cofebion sy'n anniogel - a rhwymo'r gofeb i bolyn.

Mae polisïau eraill yn cynnwys, rhoi'r gofeb i orwedd ar ei hyd, neu ailosod y garreg fedd yn fwy diogel.

Dywed Cyngor Powys y byddant yn cynnal archwiliad o'i mynwent ym Machynlleth eleni, gan roi sylw i gofebion sy'n fwy na 1.5 metr, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel.

"Fe fydd staff arbenigol yn gwneud yr archwiliad, ac fe fydd unrhyw gofeb sy'n beryglus yn cael ei wneud yn ddiogel drwy ei roi ar ei hyd," meddai llefarydd.

Ond mae cyllideb ddrafft Cyngor Caerffili yn cyfeirio at doriadau pellach yng nghyllideb mynwentydd.

"Fe fydd hyn yn lleihau ein gallu i wella ac atgyweirio isadeiladwaith mynwentydd," meddai adroddiad.

Mae'r cyngor yn archwilio cofebion bob pedair blynedd. Nid ydynt yn symud unrhyw gerrig bedd, ond yn eu rhoi ar eu hyd pe na bai modd cysylltu â'r perchnogion.

image copyrightDes Blenkinsopp / Geograph
image captionFe fydd swyddogion yn ymweld â mynwent Machynlleth

Dywedodd Cyngor Torfaen eu bod yn edrych i ddiweddaru eu polisi ar fynwentydd.

Yn ôl Cyngor Gwynedd mai cofebion anniogel yn cael eu cydnabod fel risg, a bod archwiliadau cyson yn cael eu cynnal.

Dywed Cyngor Sir Y Fflint eu bod yn archwilio 15 o fynwentydd bob tair blynedd. Y llynedd roedd angen cymryd camau yn achos 15 allan o 7,500 o gofebion.

Mae Rhondda Cynon Taf yn archwilio 76,000 o gofebion mewn 14 o fynwentydd, gan ddweud eu bod yn "cydnabod pa mor sensitif yw'r pwnc."

Yn y gorllewin mae Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am 11 o fynwentydd.

Maen nhw'n archwilio eu mynwentydd bob pum mlynedd, gan anfon llythyrau pan yn bosib at berchnogion cerrig beddi sy'n anniogel neu yn eu gwneud yn ddiogel drwy eu gorwedd ar eu hyd mewn achosion o risg difrifol

Mae Cyngor Conwy yn adolygu eu polisi, a dyna hefyd sy'n digwydd yng Ngheredigion.

Cafodd pob un o gerrig beddi mynwentydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn Rhydaman eu harchwilio yn 2004, ac mae'r sir yn archwilio'r safleoedd hynny bob blwyddyn.

Dywed Sir Fynwy nad ydy'r mater wedi codi.

Yn ôl Cyngor Wrecsam mae eu staff wedi derbyn hyfforddiant ynglŷn â chynnal profion ar gerrig beddi a sut i'w gwneud yn ddiogel, tra eu bod yn ceisio dod o hyd i'r perchnogion.

Dywed Caerdydd iddynt fabwysiadu polisi 20 mlynedd yn ôl, a'u bod yn archwilio bob pum mlynedd. Dywedodd llefarydd oherwydd hyn mae'r nifer sy'n methu profion diogelwch erbyn hyn yn "isel iawn."

Mae Cyngor Casnewydd yn cloddio cerrig beddi ymhellach i'r ddaear, yn eu gosod ar eu hyd neu yn gosod rhwystrau pe nad ydynt yn ddiogel. Maen nhw'n archwilio mynwentydd bob pum mlynedd. Maent yn rhoi rhybudd o 28 diwrnod i berchnogion pe bai angen symud carreg fedd.

image copyrightCynogr Sir Penfro
image captionSwyddogion Cyngor Sir Penfro yn sicrhau fod cerrig beddi yn ddiogel

Dywed Cyngor Sir Ddinbych nad ydynt yn symud cerrig beddi, ond oherwydd hynny mae'n rhaid iddynt osod rhai sy'n anniogel ar eu hyd.

Yng Nghaergybi yn Sir Fôn mae wedi bod yn bolisi gosod cerrig bedd ar ei hyd ers rhai blynyddoedd. Mae'r mynwentydd eraill ar yr ynys yn gyfrifoldeb cynghorau tre a chymuned.

Yn yr un modd dywed Cyngor Bro Morgannwg nad ydynt yn gyfrifol am unrhyw fynwentydd na safleoedd claddu.

Dywed Abertawe eu bod yn cynnal archwiliadau cyson, a bod cerrig beddi anniogel yn cael eu gosod ar eu hyd, neu bydd ymdrech i gysylltu â'r teulu er mwynt iddynt wneud trefniadau ar gyfer diogelu'r bedd.

Ni wnaeth cynghorauBlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr na Merthyr ymateb i gais y BBC am wybodaeth.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Gwaredu tâl am gofrestru marwolaeth plant yng Ngheredigion