Dot Davies: Chwilio am y fro Gymraeg

Yn wreiddiol o ardal Aberteifi, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae'r ddarlledwraig Dot Davies yn aml yn ystyried symud yn ôl i'r gorllewin, er mwyn rhoi magwraeth Gymraeg, wledig i'w phlant, fel yr un gafodd hi.

Ond ai yn y fan yno mae cadarnle'r iaith bellach? Yw'r syniad o 'fro Gymraeg' bellach yn amherthnasol?

Mewn cyfres newydd ar BBC Radio Cymru, mae hi'n mynd ar daith ddaearyddol ac emosiynol i geisio rhoi trefn ar ei theimladau cymysg ynglŷn â ble ddylai ei chartref fod.

Cafodd sgwrs gydag Aled Hughes am y profiad.

Dot Davies Image copyright Astud

"Dwi 'di byw chwarter canrif yng Nghaerdydd ond merch Blaenannerch o'n i, a fua i - dyw e ddim 'di gadel fi. 'Wi dal yn cyfeirio at adre' fel Blaenannerch.

"[Mae pobl yn holi] 'wyt ti byth yn meddwl am fynd nôl, am adel Caerdydd?' Odw, trwy'r amser. Bob tro fi'n mynd nôl, a mynd â'r plant, ac yn aros mwy na noson neu ddwy, fi'n gofyn 'beth fi'n 'neud?' Edrycha ar y traethau, edrycha be' sy' fan'yn. Pam ni'n byw yn y ddinas?'

"Ti'n cyrredd oedran, a dy blant di'n cyrredd rhyw fath o oedran a ti'n dechre hiraethu, a ti'n meddwl am dy blentyndod di a dy fagwraeth di.

"Mae mhlant i'n mynd drwy addysg Gymraeg ym Mhenarth, yr hyna'n mynd i ysgol wych Bro Morgannwg yn y Barri. Ond eto, ma' 'da fi'r dynfa 'ma, le fi mo'yn i mhlant i gael y fagwraeth ges i, yn y fro Gymraeg, wledig.

"Ond ai dyna'r fro Gymraeg heddi? Achos ma' 'da fi gymuned, ni'n rhan o gymuned. Ma' 'da ni ffrindie, ma' 'da ni gymdeithas yng Nghaerdydd, a fan'yn ni 'di bod.

line
line

"O'dd e gymaint o bleser mynd nôl, a theithio o gwmpas Aberteifi. Ma' 'di newid lot ers y dyddie o'n i'n tyfu lan, ond fi'n teimlo fel 'swn i gartre bob tro fi'n mynd nôl.

"Aethon ni i Ysgol Penparc, milltir o'r fferm, a parcio tu fas ac edrych mewn. Mae 70/80 o blant yno a 'ma mhlant i 'da 60 yn eu blwyddyn nhw yn yr ysgol.

"Dy'n nhw'm yn cael yr un fagwraeth â'r un ges i. Ydyn nhw'n llai o Gymry am bo' nhw'n cael y fagwraeth ddinesig 'ma?

"Dy'n nhw ddim yn mynd i fynd i glwb ffermwyr ifanc yng Nghaerdydd, y'n nhw?! Ond maen nhw'n mynd i aelwyd yr Urdd, ac maen nhw'n cael 'neud eu chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg drwy'r hyn sy'n cael ei gynnig drwy'r ysgol a trwy'r Urdd.

"Ond a'n nhw ddim lawr y stryd a chlywed Cymraeg bob dydd.

"Ddaeth e mas fod hyn yn rhyw fath o wasgu arna i... Fe deimles i ar yr eiliad 'na, yn y maes parcio yn yr ysgol, 'fyn'na o'dd fy mhlant i fod i fynd i'r ysgol, a dy'n nhw ddim wedi'.

Dot Davies Image copyright Astud
Image caption Mae Dot wedi byw yng Nghaerdydd ers dros 25 mlynedd, ond weithiau'n ystyried symud yn ôl i'r gorllewin

"'Sai 'di symud nôl falle achos rhesyme gwaith. Dwi'n gweithio yn y cyfrynge, bydde rhaid i fi deithio. Allen i fyw yn Aberteifi, allen i fyw yng Nghaerfyrddin - mae stiwdio yng Nghaerfyrddin, mae stiwdio yn Aberystwyth...

"Mae pobl yn 'neud e. Ond mewn gwirionedd, mae'r cyfleon i fi yn fy ngyrfa wedi bod yng Nghaerdydd.

"Drwy'r daith, nes i siarad â gymaint o bobl; teuluoedd, pobl sydd wedi ymgartrefu yn y gorllewin, pobl sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, rhai sy' byth am fynd nôl, rhai sy' wedi mynd nôl, rhai falle'n ddewrach na fi - a ma' profiad pawb yn wahanol.

"Rhyw fath o leddfu'r cydwybod o'dd y daith mewn gwirionedd. Ma' lot yn dod o'r rhaglen. Ni'n edrych ar iaith, gwaith, cartrefi, y gymdeithas yma yng Nghaerdydd.

"Ody'r ffaith fod y Cymry falle ar wasgar yng Nghaerdydd yn ei 'neud hi'n llai o gymuned? 'Sai'n meddwl fod hynny'n wir o gwbl.

"Ai dyma'r fro Gymraeg newydd, ar draul yr hen un? Nagyw hi'n bosib i gael y ddau?"

Mae cyfres Y fro Gymraeg ar BBC Radio Cymru am 17:00 brynhawn Sul

Hefyd o ddiddordeb: