Ar alw: Y bobl ifanc sy'n gofalu am aelodau o'r teulu

Image copyright Lluniau teulu
Image caption Ceinwen Jones ac Ana Hughes

Yn ôl Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru mae 370,000 o bobl yn gofalu am eraill yng Nghymru. Mae bron 22,000 ohonynt yn ofalwyr ifanc rhwng 16 a 24 oed, gyda dros 7,000 dan 16 oed yn gofalu am eu hanwyliaid yn ddi-dâl. Cymru sydd â'r canran uchaf o ofalwyr ifanc drwy wledydd Prydain.

Roedd dwy ofalwraig ifanc, Ceinwen Jones ac Ana Hughes yn siarad ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru ar ddydd Iau, 9 Ionawr.

Ceinwen Jones: 'Yn y brifysgol a gofalu am Mam'

Image copyright Ceinwen Jones
Image caption Mae Ceinwen wedi bod yn trafod ei phrofiadau o ofalu am ei mam tra'i bod yn y brifysgol

Mae Ceinwen yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, ac hefyd yn gofalu am ei mam:

Dwi yn fy mhedwaredd flwyddyn i yn y brifysgol ar hyn o bryd, a dwi hefyd yn gofalu am Mam - wastad ar gael, ar alw.

Pan dwi adra dwi'n gwneud pethau o gwmpas y tŷ, dwi'n helpu Mam i newid - mae'n dibynnu lot ar sut hwylia' sydd arni'r diwrnod yna, gan fod ganddi lot o afiechydon autoimmune gwahanol ac mae 'na lot o ups and downs.

Mae ganddi lot o apwyntiadau ysbyty ac yn mynd i A&E yn eithaf aml hefyd.

Dim datgelu ei phrofiadau

Roedd o'n anodd pan o'n i'n sylwi bod o ddim yn rhywbeth roedd pawb yn gwneud, a bod o'n rhywbeth ychwanegol o'n i'n gorfod gwneud. Roedd o'n gwneud fy mywyd cymdeithasol i'n anodd ac yn yr ysgol, achos o'n i ddim rili'n dweud wrth neb, dim hyd yn oed wrth fy athrawon - o'n i'n cadw o i fi'n hun.

O'n i methu gwneud pethau efo fy ffrindiau weithia', a 'nes i ddim ystyried dweud wrth bobl.

O'n i'n rhan o grŵp 'gofalwyr ifanc' pan o'n i yn yr ysgol, ond o'n i heb ddweud wrth yr athrawon, o'n i jest yn mynd yn achlysurol. Yn yr ail flwyddyn yn y brifysgol nes i sylwi bod yna help ar gael - wnes i ddim chwilio amdano yn y flwyddyn gyntaf.

Mae'n anodd trio jyglo pethau, dwi ddim yn arbenigwr ar hynny, ac mae'n anodd os 'di rhywbeth yn dod fyny a ti'n gorfod newid dy gynlluniau yn annisgwyl - ac yn heriol wrth ystyried astudio.

Image copyright Ceinwen
Image caption Ceinwen Jones

Aros ym Mangor

Pan 'nes i sbïo ar brifysgolion 'nes i benderfynu mai i Fangor o'n i eisiau mynd, i astudio Cymraeg. 'Nes i benderfynu aros ym Mangor yn hytrach na byw adra; un rheswm oedd bod gen i ddim car, ac yn ail oedd o'n help i gael y rhyddid, ond eto dal i fod yn ddigon agos i helpu allan.

Os ydw i ym Mangor dwi'n mynd adra' o leiaf unwaith yr wythnos i helpu, mynd â Mam i apwyntiadau hefyd - dyna fel mae hi ar y funud, ond mae hynny'n gallu newid yn dibynnu ar y sefyllfa.

Y semester diwethaf aeth Mam i'r ysbyty jest ar ôl fi orffen arholiadau, ac oedd y cyfnod yna'n lot o nôl a 'mlaen i'r ysbyty a nôl pethau o'r siop.

'Mwy o gefnogaeth'

Mae'n gallu bod yn anodd achos 'swn i'n gallu bod mewn darlith neu gyfarfod, ac mae'n cael effaith emosiynol, achos ti'n poeni os oes 'na alwad ffôn, os oes 'na rywbeth yn bod.

Dwi'n meddwl bod 'na fwy o gefnogaeth nag o'n i'n gwybod amdano fo, achos o'n i ddim ishio gwybod amdano ar y pryd. Mae ysgolion yn trio trafod y peth yn fwy agored a mae pobl yn gwybod mwy amdano fo - mae hynny'n peth cadarnhaol iawn.

Mae'n bwysig bod bobl sydd ddim yn ofalwyr yn gwybod y ffeithiau hefyd, i gefnogi rhai sy'n cynnig gofal.

Ana Hughes: 'Gofalu amdano drwy fy mywyd'

Image copyright Ana
Image caption Ana gyda'i brawd, Cameron

Mae Ana Hughes yn 17 oed ac yn gofalu am ei brawd, sydd flwyddyn yn iau na hi:

Dim ond blwyddyn sydd rhyngof i a fy mrawd, felly dwi wedi bod yn gofalu amdano drwy fy mywyd. Dwi yn fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol ar hyn o bryd.

O'r eiliad dwi'n dod adra o'r ysgol dwi'n siarad efo fo i weld os 'di o'n iawn, helpu iddo fynd i'r gawod a newid, helpu Mam o gwmpas y tŷ, os 'di hi angen mynd allan i rywle. Dwi'n aros adre efo Mam ac edrych ar ôl o, ac weithiau os dwi allan efo'n ffrindiau i, dwi'n trio dod cyn gynted â dwi'n gallu, os 'di Mam neu Dad angen mynd allan.

Dwi'n meddwl oedd o wedi cael mwy o effaith arna' pan o'n i'n iau, pan doedd neb yn dallt be' oedd yn mynd 'mlaen. Mae Mam a Dad yn gadael i fi gael bywyd fy hun, ond dwi yn gofalu lot am fy mrawd. Mae'n cael llai o effaith rŵan am fod Mam a Dad yn rhoi'r cyfle imi gael rhyddid a rhoi amser i fi wneud gwaith ysgol.

Dwi isho mynd i brifysgol i ffwrdd, dim aros adra, felly ella bydd rhaid i Mam a Dad gael rhywun arall i ofalu am fy mrawd. Mae gennai frawd arall, ond dim ond 10 oed ydy o.

Dwi 'di bod yn cael lot o gefnogaeth, a mynd i grwpiau gofalwyr ifanc ers dwi'n 7, felly 10 mlynedd nôl. Maen nhw wedi bod yn helpu lot o ran y straen, a ma' nhw'n checkio arna' i yn rheolaidd.

Ana Hughes Image copyright Ana
Image caption Ana Hughes

Rhan fwya'r amser mae fy mrawd yn mynd i'r ysgol cyn fi, a pan dwi'n dod 'nôl adra dwi'n gweld be' mae Mam angen i fi 'neud, ac mae hi yn rhoi amser i fi stydio hefyd.

Mae Mam yn mynd allan a dwi'n edrych ar ôl fy mrawd, ac mae Dad yn dod adra wedyn. Weithiau mae fy mrawd i'n mynd allan efo bobl o'r ysgol, neu mae pobl yn mynd â fo allan i lefydd a dwi angen bod adra ar gyfer pryd maen nhw'n dod â fo nôl.

Mae ysgolion wedi dod yn lot gwell. Pan 'nes i gychwyn ysgol ym mlwyddyn 7, doeddwn i ddim yn teimlo cefnogaeth yn yr ysgol o gwbl, ond ers imi fod yn y chweched dosbarth maen nhw'n deall mwy, mod i weithiau ddim yn yr ysgol ar amser, neu yn gorfod gadael yn sydyn.

line

Hefyd o ddiddordeb: