Marwolaethau 'heb eu hesbonio' yn Saundersfoot, Sir Benfro

Heol Sandy Hill, Saundersfoot Image copyright Google
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Heol Sandy Hill brynhawn Mawrth

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio yn dilyn marwolaeth dynes oedrannus a'i merch yn Saundersfoot, Sir Benfro ddydd Mawrth.

Cafwyd hyd i gyrff Lilian Smith, 84, a'i merch Susan Smith, 63, yn Heol Sandy Hill yn y pentref ychydig cyn 16:00 ar 7 Ionawr.

Ar hyn o bryd mae'r marwolaethau'n cael eu trin fel rhai heb eu hesbonio, ond nid fel rhai amheus.

Mae teulu'r unigolion sydd wedi marw wedi cael clywed y newyddion, ac mae'r crwner yn ymwybodol o'r datblygiad medd yr heddlu.