Y meddyg o Farbados: 'Bwysig i siarad Cymraeg'

Fe all ymweliad â'r ysbyty fod yn brofiad y byddai gwell gan lawer ohonom ei osgoi'n llwyr.

Un sy'n deall hyn ydy'r meddyg Dr Phillip Moore, sy'n wreiddiol o Farbados. Mae wedi dysgu'r Gymraeg er mwyn hwyluso'r profiad i'r cleifion sy'n dod i'r ysbyty, trwy allu sgwrsio gyda nhw yn Gymraeg.

Yn 2019 fe gafodd ei anrhydeddu gan yr Eisteddfod Genedlaethol am ei ymdrechion i gofleidio'r iaith a'i defnyddio yn ei waith.

Ar raglen Nic Parry ar Radio Cymru ar Ionawr 3, bu'n trafod sut daeth i ddysgu'r iaith a pham ei fod yn meddwl fod cynnig gofal trwy gyfrwng y Gymraeg mor bwysig.

"Des i'r Alban yn 2004 i arbenigo mewn llawdriniaeth clust, trwyn a gwddw. Wedi hynny fe es i Essex i gael mwy o brofiad yna dod i Gymru yn 2010, i Ysbyty Gwynedd.

"Y tro cyntaf i mi glywed y Gymraeg oedd pan nes i ymweld â'r ysbyty cyn dechrau fy swydd. Ar ôl hynny fe wnes i benderfynu dysgu mwy o'r ardal a mwy o'r iaith. Roedd yn brofiad diddorol iawn. Fe wnes i drio cario 'mlaen i fod yn rhugl."

Dr Mahmoud Elsayed (ar y chwith) a'r llawfeddyg Phillip Moore, y ddau wedi dysgu Cymraeg
Image caption Dr Mahmoud Elsayed (ar y chwith) a'r llawfeddyg Phillip Moore, y ddau wedi dysgu Cymraeg

Fe wnaeth Phillip Moore gwblhau cwrs mynediad yng Ngholeg Menai, cyn mynd ymlaen i wneud Lefel A mewn Cymraeg. Erbyn hyn mae'n defnyddio'r iaith yn rheoliadd gyda chleifion yr ardal.

"Mae'n ddoniol, achos pan dwi'n dechrau siarad Cymraeg 'dyw rhai cleifion ddim yn cofrestru i ddechrau mod i'n siarad Cymraeg. Ar ôl eiliad neu ddau maen nhw'n sylweddoli!"

'Bwysig i siarad Cymraeg'

"Dwi'n ffeindio fy mod yn defnyddio Cymraeg yn fwy wrth roi triniaeth i blant. Maen nhw'n siarad Cymraeg fwy na Saesneg. Wrth eu gwneud yn gyfforddus, mae'n bwysig siarad efo nhw yn Gymraeg er mwyn eu ymlacio nhw a'r teulu. Mae'n hawdd cael y manylion pwysig wrth siarad Cymraeg.

"Mae'r Gymraeg hefyd yn hollol bwysig gyda hen bobl. Os oes gan glaf dementia, maen nhw'n revertio i siarad yn eu mamiaith. Weithiau maen nhw'n anghofio siarad Saesneg, felly mae'n bwysig iawn.

"Os oes ganddyn nhw broblem efo'r clyw, mae'n hyd yn oed yn fwy anodd i ddeall yn Saesneg."

Derbyn i'r Orsedd

Cafodd Dr Phillip Moore ei dderbyn i'r orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 2019 Image copyright ffotoNant
Image caption Cafodd Dr Phillip Moore ei dderbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, yn Llanrwst yn 2019

Yn ogystal â dysgu'r iaith mae Dr Moore hefyd wedi ceisio dod yn gyfarwydd â diwylliant Cymru, a chafodd ei anrhydeddu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst y llynedd.

"Roedd y tywydd yn ofnadwy, ond roedd y seremoni yn wych. Roedd yn brofiad arbennig i mi."

Ac mae'n esbonio sut bod ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymreig - a chaneuon Cymraeg - wedi bod o gymorth iddo yn ei waith.

"Wrth wneud llawdriniaeth dan anesthetig lleol, roedd y claf yn swil iawn ac roeddwn yn meddwl bod rhaid i mi wneud rhywbeth i wneud iddi ymlacio. Felly fe wnes i drio canu Sosban Fach! Worked a treat!

"Dwi jest yn teimlo mod i'n gwneud fy swydd yn yr iaith leol. Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig fod mwy o bobl yn defnyddio eu hiaith yn y gwaith."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig