Cwpan FA Lloegr: Caerdydd 2-2 Caerliwelydd

Jack Bridge heads home Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Jack Bridge yn sgorio i Carlisle yn yr hanner cyntaf

Roedd yna weddnewidiad yn chwarae'r Adar Gleision yn ail hanner y gêm yn erbyn Caerliwelydd ddydd Sadwrn yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr.

Ar yr hanner roedd yr ymwelwyr ar y blaen 2-0 ond yn fuan yn yr ail hanner unionwyd y sgôr gan Callum Paterson a Gavin Whyte.

Roedd tîm Neil Harris yn amlwg yn gobeithio am ganlyniad gwell wedi iddyn nhw gael eu trechu gan QPR 6-1 ddydd Calan.

Er gwaethaf ymdrechion i sgorio eto roedd Adam Collin, gôl-geidwad Caerliwelydd, yn drech na'r Adar Gleision.

Mae'r canlyniad yn golygu y bydd rhaid chwarae'r gêm eto - y tro nesaf yng Nghaerliwelydd.

Straeon perthnasol