Taflu goleuni ar hen Feibl o un o byllau glo'r de

Beibl Mynydd Newydd
Image caption Y gred yw mai'r Beibl yma o 1904 yw'r un olaf i gael ei ddefnyddio yng Nglofa Mynydd Newydd

Mae Beibl unigryw a gafodd ei ddefnyddio yn oedfa wythnosol un o byllau glo de Cymru am ddegawdau wedi cael ei roi i Amgueddfa Lofaol Cymru.

Roedd glöwyr pwll Mynydd Newydd ger Fforestfach yn Abertawe yn arfer dod i'r gwaith yn gynnar bob bore Llun ar gyfer y gwasanaeth ar ddechrau'r wythnos waith.

"Mae sôn bod dechreuodd hyn nôl yn y 1840au pan fu farw dau löwr mewn damwain," meddai'r hanesydd lleol, Dr Gethin Matthews.

"Roedd y glöwyr wedi dechra' fe ei hunan... i gofio am eu cyfeillion."

"Roedd nifer o byllau glo o gwmpas Cymru yn cael gwasanaethau [crefyddol] am ryw gyfnod... beth sy'n unigryw fan hyn am Mynydd Newydd yw bod pwll glo wedi cynnal y gwasanaethau 'ma am dros 80 mlynedd."

Cafodd y beibl ei roi i Amgueddfa Big Pit gan ddisgynyddion un o'r cyn-löwyr.

Yn ôl curadur yr amgueddfa, Ceri Thompson, hwn oedd y trydydd beibl i gael ei ddefnyddio yn y pwll.

Cafodd y cyntaf ei ddifetha, meddai, ar ôl mynd yn wlyb dan ddaear, a'i ail "wedi dechrau mynd" am fod "un o'r bois... got carried away, ynde, bangio'r pulpit ac roedd y beibl yn rhacs dros y llawr, bob man".

Ychwanegodd: "Hyd wi'n gw'bod, [dyma'r] unig un sy'n survivio heddiw.

"Mae'n bwysig yn hanes Cymru... mae'n dangos shwt mor bwysig oedd y Beibl a religion i'r glöwyr."

Caeodd y lofa dros dro yn 1932, cyn ailagor fel y Mynydd Newydd Colliery Company yn 1935 a chyflogi 76 o ddynion.

Cafodd y pwll ei gau yn derfynol yn 1955.