Cwpan Her Ewrop: Gleision 54 - 22 Pau

Adams Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe sgoriodd Josh Adams (dde) hat-tric ar ei ymddangosiad cyntaf i'r Gleision

Llwyddodd Josh Adams i sgorio hat-tric ar ei ymddangosiad cyntaf i'r Gleision wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Pau nos Sadwrn yng Nghwpan Her Ewrop.

Fe wnaeth Jarrod Evans sgorio 22 pwynt gan gynnwys dau gais gyda Tomos Williams wrth wraidd llwyddiant y Gleision.

Croesodd Ben Thomas, Matthew Morgan ac Owen Lane hefyd i'r tî cartref.

Fe wnaeth Pau sicrhau 22 pwynt diolch i geisiau gan Lucas Rey, Pierre Nueno a Samuel Marques.

Pynciau Cysylltiedig