Rhybudd am wyntoedd 70mya ar hyd arfordir Cymru

Swyddfa Dywydd Image copyright Swyddfa Dywydd
Image caption Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym o 15:00 ddydd Sul nes 09:00 fore Llun.

Mae 'na rybudd y gallai gwyntoedd o hyd at 70mya daro arfordir Cymru, gyda'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio pobl i sicrhau bod eu haddurniadau Nadolig yn ddiogel.

Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer rhannau o Gymru o 15:00 ddydd Sul nes 09:00 fore Llun.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus yn debygol a bod toriadau i gyflenwadau trydan yn bosib.

"Fe allai fod oedi i drafnidiaeth, ac efallai y byddai'n syniad i sicrhau bod eitemau tu allan - gan gynnwys unrhyw addurniadau Nadolig - yn ddiogel," meddai'r Swyddfa Dywydd.

Ychwanegodd y rhybudd ei bod yn debygol y bydd mannau arfordirol yn cael eu taro gan donnau mawr.

Nos Sul mae un lôn ar gau ar Bont Hafren ar yr M48 ac mae pontydd Britannia a Chleddau ar gau i gerbydau uchel.

Yn gynharach nos Sul cafodd sioe olau Parc Margam ger Port Talbot ei chanslo am resymau iechyd a diogelwch.

Image copyright Wales News Service
Image caption Daeth y sgaffaldau i ben y car yn Grangetown nos Sadwrn

Nos Sadwrn daeth sgaffaldau lawr i ben car yng Nghaerdydd oherwydd gwyntoedd cryfion.

Roedd y car wedi ei barcio ar Ffordd Clive yn Grangetown.

Dywed Heddlu'r De na chafodd neb ei anafu.

Pynciau Cysylltiedig