Canlyniadau Pisa Cymru yn well ond dal lle i wella

disgyblion o ysgol uwchradd Porthcawl
Image caption Mae profion Pisa yn profi sgiliau sylfaenol disgyblion 15 oed ar draws y byd

Mae perfformiad Cymru wedi gwella mewn profion rhyngwladol ond mae'r canlyniadau'n parhau i fod yn is na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Mae profion Pisa - sy'n profi darllen, mathemateg a gwyddoniaeth - yn cael eu cymryd bob tair blynedd gan sampl o bobl ifanc 15 oed mewn 79 o wledydd a rhanbarthau.

Roedd y gwelliant mwyaf mewn mathemateg tra bod gwyddoniaeth hefyd yn agos at y cyfartaledd rhyngwladol.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, bod y cynnydd yn gadarnhaol ond "nid yn berffaith - gallwn fynd ymhellach".

Roedd gwelliant yng nghanlyniadau Cymru yn y profion - sy'n cael eu cynnal gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) - o'i gymharu â chenhedloedd eraill a gymerodd ran.

Canlyniadau mathemateg

Mewn mathemateg, mae cyfartaledd Cymru (487) yn agos at y cyfartaledd rhyngwladol - a dyma'r sgôr uchaf yn y pum prawf hyd yma.

Roedd sgôr Cymru bron yr un peth â'r Alban, ar ôl bod 30 pwynt y tu ôl yn 2012.

Mae Cymru'n sgorio'r un peth â'r Eidal ac ychydig y tu ôl i Rwsia, ond yn uwch nag America, Lwcsembwrg, Lithwania a Hwngari.

Image copyright Llywodraeth Cymru

Cododd nifer y myfyrwyr sy'n perfformio'n dda yng Nghymru o 4% i 7%.

Hefyd am y tro cyntaf, doedd dim bwlch sylweddol rhwng cyrhaeddiad bechgyn a merched.

Canlyniadau darllen

Yn y profion darllen, sgoriodd Cymru 483 - ychydig yn is nag Awstria a'r Swistir ond ychydig yn uwch na gwledydd fel Latfia, yr Eidal, Croatia a Lithwania.

Image caption Ffynhonnell: OECD, Rhagfyr 2019

Dyma hefyd y sgôr cyfartalog uchaf ers i Gymru ddechrau gymryd rhan yn y profion yn 2006 - er ei fod y gwaethaf o genhedloedd eraill y DU, gyda'r Alban yn dangos y gwelliant mwyaf.

Cododd nifer y myfyrwyr sy'n perfformio'n dda mewn darllen o 3% yn 2015 i 7% yn 2018.

Ond doedd 44% o ddisgyblion Cymru byth neu brin yn darllen llyfrau o gymharu â chyfartaledd o 35% yr OECD.

Yn ôl arolwg ymhlith y disgyblion a gymerodd rhan yn y prawf, roedd agweddau tuag at ddarllen wedi troi'n fwy negyddol yn ystod y degawd diwethaf, gyda'r newid yng Nghymru yn fwy amlwg na chyfartaledd yr OECD.

Canlyniadau gwyddoniaeth

Mewn gwyddoniaeth, mae Cymru (488) bellach yn agos iawn at y cyfartaledd rhyngwladol ac er ei fod yn welliant o gymharu â 2015, mae'n dal i fod yn is na'r safle o 505 yn 2006.

Image caption Ffynhonnell: OECD, Rhagfyr 2019

Mae Cymru yn sgorio'n uwch na gwledydd fel Latfia a Sbaen ac ychydig y tu ôl i rai tebyg i Awstria, Catalwnia a Phortiwgal.

Cynyddodd cyfran y myfyrwyr Cymraeg sy'n perfformio'n uwch mewn gwyddoniaeth o 4% i 5%.

Ledled y byd bu 600,000 o fyfyrwyr - sy'n cynrychioli 32m o bobl ifanc 15 oed - yn sefyll y profion dwy awr y llynedd.

Perfformiodd taleithiau Tsieineaidd Beijing, Shanghai, Jiangsu a Zhejiang - gyda phoblogaeth o 180m ar y cyd - yn well na'r holl genhedloedd a rhanbarthau eraill.

Fe lwyddon nhw i sgorio 555 mewn darllen, 591 mewn mathemateg a 590 mewn gwyddoniaeth.

Boddhad disgyblion?

Pan ofynnodd yr OECD i ddisgyblion am eu teimladau ynglŷn â phrofiadau yn eu bywydau, dywedodd 54% o ddisgyblion Cymru eu bo nhw'n teimlo'n ddiflas "weithiau" neu "bob amser".

Roedd hyn o'i gymharu â'r cyfartaledd rhyngwladol o 39%, tra bod 63% o ddisgyblion yn teimlo'n bryderus "weithiau" neu "bob amser" o gymharu â chyfartaledd yr OECD o 50%.

Dywedodd Andreas Schleicher, pennaeth addysg a sgiliau OECD, fod canlyniadau'r gorffennol yng Nghymru yn adlewyrchu system lle'r oedd gormod o bobl ifanc wedi gadael addysg heb y sgiliau sylfaenol.

Ond fe ddywedodd bod canlyniadau gwael Pisa'n y gorffennol wedi bod yn rhybudd sydd wedi arwain at ddiwygiadau pwysig.

Ychwanegodd bod angen gwella ansawdd y dysgu a bod newidiadau wedi eu cyflwyno i gyrsiau ymarfer dysgu.

Dywedodd Mr Schleicher bod sawl syniad arloesol ynghlwm â'r cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyflwyno yn 2022 ond bod y ffordd y byddai'r cwricwlwm yn cael ei gyflwyno yn allweddol.

Beth yw'r ymateb?

Dywedodd Kirsty Williams fod Cymru bellach "am y tro cyntaf erioed... yn y brif ffrwd ryngwladol, diolch i ymdrechion ein hathrawon a'n myfyrwyr".

"Rydyn ni wedi dal i fyny, rydyn ni'n parhau i wella ym mhob maes ac fel cenedl mae'n rhaid i ni fod yn benderfynol o gadw'r momentwm i fynd," meddai.

Dywedodd fod y cynnydd yng nghanlyniadau'r perfformwyr uwch yn "gam mawr ymlaen" ac yn "newid diwylliant" i Gymru.

"Ond mae mwy i'w wneud o hyd, gan nad ydym wedi cyrraedd cyfartaledd yr OECD ar gyfer yr agwedd yma eto," ychwanegodd.

"Nid yn unig mae ein sgôr cyffredinol wedi cynyddu, rydyn ni hefyd wedi lleihau'r bwlch cyrhaeddiad.

"Gallwn fod yn falch ein bod ni yma yng Nghymru yn wirioneddol gredu bod tegwch yr un mor bwysig â rhagoriaeth."

Dywedodd Ms Williams fod Cymru yn mynd i'r cyfeiriad cywir gyda diwygiadau i'r cwricwlwm.