Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn Sir y Fflint

A55 j33 Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cyffyrdd 33 a 33A ar yr A55

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint nos Sul.

Cafodd y dyn, a oedd yn ei 30au, ei dorri'n rhydd o gar gan ddiffoddwyr tân a'i hedfan i'r ysbyty, ble bu farw o'i anafiadau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 19:00 rhwng cyffyrdd 33 a 33A o'r A55 tuag at Laneurgain.

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion.

Doedd yr un cerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig