'Hunllef' cwpl a orfodwyd i adael eu cartref yn Aberteifi

Pat a Donna Workman
Image caption Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, fe sylwodd Pat a Donna Workman ar arogl petrol yn y tŷ

Mae teulu o Aberteifi wedi dweud wrth BBC Cymru nad ydyn nhw'n gweld diwedd i'w hunllef dros ddwy flynedd ar ôl cael eu gorfodi i adael eu cartref yng nghanol y dref.

Fe gafodd cartre'r Workmans ar Stryd Morgan ei lygru gan betrol, carthion a thamprwydd, yn sgil gwaith ar lôn drws nesaf i'r tŷ.

Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr sy'n awgrymu nad yw'r lôn yn eiddo i'r cyngor.

Cafodd y teulu gyngor gan arbenigwyr amgylcheddol i gadw draw o'r tŷ yn sgil y llygredd oherwydd y bygythiad i'w hiechyd.

Mae'r teulu yn honni taw Cyngor Sir Ceredigion oedd yn gyfrifol am drefnu'r gwaith hwnnw, wnaeth achosi difrod i bibelli'n cludo tanwydd i garej cyfagos.

Dywedodd y cyngor eu bod yn cydymdeimlo â'r teulu, a'u bod yn ceisio datrys y mater "hynod o gymhleth".

'Savings pot wedi bennu'

Cafodd tarmac ei osod ar y lôn wrth i swyddfeydd y cyngor gael eu hadnewyddu ar Stryd Morgan.

Mae Pat a Donna Workman yn dweud bod hynny wedi arwain at ddamprwydd yn eu cartref, ac roedd carthion hefyd yn llifo i mewn i'w tŷ o ddraen ar y lôn.

Maen nhw'n amau fod y problemau yn deillio o'r gwaith gafodd ei wneud ar y lôn fechan ar ran y cyngor.

Cafodd y teulu gyngor gan arbenigwyr i gadw draw o'r tŷ oherwydd y llygredd.

Mae'r cyngor a'r garej, TM Daniel, bellach mewn anghydfod cyfreithiol ynglŷn â phwy ddylai dalu'r costau i lanhau'r llanast, sydd yn debygol o fod o leiaf £250,000.

Image caption Dywed Donna Workman nad oes cartref wedi bod gyda'r teulu ers bron i dair blynedd

Mae'r teulu bellach wedi defnyddio eu cynilion i gyd, wrth dalu costau'r morgais ar y tŷ a chostau rhent.

Dywedodd Mrs Workman wrth BBC Cymru: "Ni wedi bod mas o'r tŷ ers dros ddwy flynedd. Ni wedi bod yn rhento yn Boncath am 18 months.

"Ni'n rhento yn Gwbert am chwe mis achos ni ffeili byw fan hyn achos y fumes, a'r iechyd.

"Mae'n ongoing process a ni ffili gweld golau ar ddiwedd y tunnel. Sdim un sôn am ddyddiad i'r gwaith i ddechrau. Mae'r savings pot wedi bennu. Mae'n dorcalonnus rili.

"Maen nhw'n gallu mynd getre i tŷ eu hunain. 'Sdim cartref wedi bod 'da ni ers biti fod tair blynedd. Mae'n straen ar y teulu i gyd."

Image caption Mae'r tir o dan gartref teulu'r Workman wedi ei lygru ac mae drewdod petrol yn y tŷ o hyd

Dywedodd Peter Williams, perchennog garej TM Daniel ei fod wedi sylwi ar weithwyr yn gosod tarmac ar y lôn tu ôl y garej ger cartref y Workmans yn 2013.

Cafodd gwaith pellach ei wneud gan y cyngor, wnaeth olygu gosod grid ger ei selar.

"Rwy'n amau eu bod nhw, wrth wneud hynny, wedi amharu ar y pibelli petrol," meddai.

"Mae'r gwendid yn y bibell yn yr union fan ble roedd y cyngor wedi gosod y grid. Maen nhw'n dweud taw fy mai yw hwn, a dwi'n dweud taw eu bai nhw yw e.

"Dwi erioed wedi bod mewn trafferth o'r blaen, ond dwi wedi gorfod defnyddio cyfreithwyr ac maen nhw'n ymladd y cyngor.

"Mae'n rhygnu 'mlaen heb ddatrysiad."

'Costio £250,000'

Yn ôl Mr Williams, amcan bris arbenigwr dwy flynedd yn ôl oedd o leiaf £250,000 i glirio'r llanast yn llwyr.

"Rwy'n amau fod y pris wedi mynd i fyny nawr, falle dwbl hynny. Rwy'n credu dylai'r cyngor dalu."

Mae Pat Workman wedi galw ar y cyngor i dalu rhent y teulu'n llawn wrth i'r frwydr gyfreithiol barhau.

Dywedodd: "Fe ddywedodd y cyngor eu bod nhw yn barod i dalu 50% ar gyfer y chwe mis cyntaf. Ar ôl hynny, roedden nhw'n disgwyl i ni beidio â thalu'r morgais.

"Fe ddywedodd y cyngor nad oedd hawl i wario ar bethau fel anrhegion Nadolig. Dyna i gyd mae'r ddau ohonom ni yn gofyn yw eu bod nhw'n talu am lety i ni.

"Mi allai gymryd chwe blynedd neu 60 mlynedd i ddatrys hyn. Mae angen cymorth ariannol arnom ni."

Image caption Mae Maer Aberteifi, Shân Williams, yn gefnogol i'r teulu

Mae'r cyngor wedi gwrthod prynu cartref y ddau.

Dywedodd Maer Aberteifi, y Cynghorydd Shân Williams, bod y teulu angen cefnogaeth.

"Maen nhw wedi gwario dros £12,000 o arian eu hunain yn talu rhent a talu'r mortgage ar y tŷ. So hwnna'n deg.

"Maen nhw wedi cael eu dala yn y canol. Pan roddodd y cyngor sir y tarmac lawr ar y lôn, pyrnu dechreuodd yr annibendod 'ma.

"Maen nhw wedi cael fumes petrol, sewage, a dŵr yn rhedeg mewn i'w tŷ nhw. Maen nhw'n talu morgais ar dŷ sydd erbyn hyn werth dim, a gwaeth na hynny, mae'n liability.

"Os bosib allen nhw dalu am rent iddo nhw gael to dros eu pennau nhw nes bod y busnes 'ma wedi bennu. Ar 6 Rhagfyr, bydd Pat a Donna mas ar y stryd. S'dim rhagor o arian 'da nhw i gwario ar rent.

"Roedd y cyngor sir wedi awgrymu bod nhw'n stopo talu'r mortgage ar y tŷ er mwyn fforddio'r rhent. Beth se'r mortgage company yn mynd nôl â'r tŷ? Dim eu bai nhw yw hwn, bai y cyngor sir."

'Cyngor yn darparu cefnogaeth'

Mae Pat Workman wedi disgrifio'r sefyllfa fel "hunllef fydd yn parhau tan bod y cyngor yn gwneud rhywbeth".

"Rydym yn hollol grediniol taw'r gwaith ar y lôn yw gwraidd y problemau," meddai. "Oni bai bod y cyngor wedi gwneud y gwaith, mi faswn ni yn dal i fyw yn y tŷ fel teulu."

Doedd Cyngor Ceredigion ddim am wneud cyfweliad, ond mewn datganiad, fe ddywedodd yr awdurdod eu bod nhw'n "cydymdeimlo" gyda'r teulu.

"Mae'r cyngor yn gwbl ymwybodol o sefyllfa anodd teulu'r Workman ac mae'n cydymdeimlo â'u hamgylchiadau.

"Mae'r cyngor wedi darparu cyngor a chefnogaeth i'r cwpl ynglŷn â'u dewisiadau tai. Mae'r cyngor hefyd yn gweithio i ddatrys y broblem ond mae'r mater yn parhau'n hynod o gymhleth gan fod angen mynd i'r afael â nifer o rwystrau technegol ac ymwneud â nifer o bartïon gwahanol.

"Mae'r cyngor wedi comisiynu archwiliadau manwl o'r safle ac mae'n ystyried pob opsiwn sydd ar gael fel y gall y teulu ddychwelyd i'w cartref. Mae'r cyngor hefyd wedi ymrwymo i gynnig cyngor a chymorth parhaus i Mr a Mrs Workman."

Bellach, mae Mr a Mrs Workman yn ystyried byw mewn carafán ger eu cartref, os na fydd y cyngor yn barod i dalu eu rhent.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol