Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro ar yr M4

M4 Image copyright Google
Image caption Cafodd y ffordd ei chau am tua pum awr wedi'r digwyddiad

Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar ar draffordd yr M4 yn ardal Abertawe.

Dywed Heddlu'r De fod y dyn wedi ei daro ar y lon orllewinol rhwng cyffyrdd 47 a 48 tau 16:00 dydd Sadwrn.

Bu'r ffordd ynghau am tua pump awr wedi'r digwyddiad.

Roedd Q3 Audi llwyd yn rhan o'r digwyddiad ac mae'r heddlu yn apelio am dystion.

Pynciau Cysylltiedig