Cyrmu i deithio i Baku a Rhufain yn Euro 2020
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cymru i deithio i Baku a Rhufain yn Euro 2020

30 Tachwedd 2019 Diweddarwyd 20:53 GMT

Bydd Cymru yn wynebu Yr Eidal, Y Swistir a Twrci yn Euro 2020, gyda gemau grŵp A yn cael eu cynnal yn Rhufain a Baku.

Y Swistir fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn Baku ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin.

Yna fe fyddant yn wynebu Twrci, hefyd yn Baku ar 17 Mehefin - dydd Mercher.

Cafodd y grwpiau terfynol eu dewis mewn seremoni yn Bucharest brynhawn Sadwrn.

Yn ôl Carl Roberts gohebydd Chwaraeon BBC Cymru bydd Ryan Giggs, rheolwr Cymru, yn fodlon gyda'r grŵp.