Cymru 43-33 Barbariaid

Josh Adams yn sgorio i Gymru Image copyright Huw Evans picture agency

Fe wnaeth cyfnod Wayne Pivac wrth y llyw ddechrau gyda buddugoliaeth dros ei ragflaenydd Warren Gatland wrth i Gymru drechu'r Barbariaid yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth y dorf o 62,138 fwynhau 11 cais.

Roedd yna ddau yr un i'r asgellwr Josh Adams a'r bachwr Ken Owens, ac un i'r asgellwr Johnny McNicholl yn ei gêm gyntaf i Gymru.

Llwyddodd Gareth Davies, ddaeth ymlaen fel eilydd, hefyd i groesi gyda Leigh Halfpenny yn cicio 13 o bwyntiau.

Josh Strauss, Curwin Bosch, Shaun Stevenson, Craig Millar a Pete Samu groesodd i'r Barbariaid.

Bydd Pivac wedi ei blesio gyda chwarae ymosodol Cymru, ond fe fydd hyfforddwyr yn amddiffyn, Byron Hayward a Sam Warburton, yn poeni fod y tîm wedi ildio pum cais wrth sicrhau'r fuddugoliaeth.

Pynciau Cysylltiedig