Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-2 Fulham

abertawe Image copyright Huw Evans picture agency

Methiant oedd ymgais Abertawe i godi i'r trydydd safle yn y bencampwriaeth nos Wener, wrth i'r Elyrch golli gartref i Fulham.

Fe ddaeth dwy gôl Fulham yn ystod yr hanner cyntaf, gyda Mitrovic yn sgorio dwywaith i'r ymwelwyr.

Roedd Abertawe yn anlwcus i fod dwy gôl ar ei hôl hi, gan mai nhw oedd y tîm cryfaf drwy'r rhan fwyaf o'r gêm, ond fe ddaeth unig gôl yr Elyrch gan George Byers wedi 65 munud.

Mae Abertawe yn parhau yn y chweched safle, wrth i Fulham ddringo i'r trydydd safle a dim ond dau bwynt tu ôl i Leeds United, sy'n ail.

Yr Elyrch yw'r unig dîm yn nhair o gynghreiriau'r EFL sydd eto i golli gêm oddi cartref yn y gynghrair, ond maent yn parhau i'w chael hi'n anodd ennill ar eu tomen eu hunain.