Canfod llawysgrif Gymraeg 470 oed yn Northampton

llawysgrifen
Image caption Cafwyd hyd i'r lawysgrif - sy'n dyddio'n ôl i tua 1550 - yn Northampton

Dywed ymchwilydd llawysgrifol yn Aberystwyth ei fod methu credu ei fod wedi dod o hyd i lawysgrif Gymraeg o'r 1550au yn Sir Northampton.

Ar hyn o bryd mae Gruffudd Antur ar y cyd â'r ysgolhaig Daniel Huws yn paratoi tair cyfrol arloesol ar lawysgrifau cysylltiedig â Chymru o c.800 i c.1800.

Fel rhan o'r gwaith mae Mr Antur wedi bod yn teithio i amrywiol lefydd er mwyn canfod llawysgrifau coll.

Ar hyd y blynyddoedd mae nifer o lawysgrifau wedi'u canfod mewn mannau annisgwyl.

Cafodd casgliad o achau Ynys Môn ei ganfod mewn archifdy yn Wakefield a chafwyd o hyd i lawysgrif debyg yn Stafford.

Hanes gwrthryfel Glyndŵr

Ond mae'r llawysgrif y cafwyd hyd iddi yn ddiweddar yng nghasgliad Finch-Hatton o Kirby Hall yn Northampton wedi cael ei chopïo gan Syr Siôn Prys oddeutu 1550, ac mae'n cynnwys hanes gwrthryfel Glyndŵr.

Siôn Prys oedd y gŵr a oedd yn gyfrifol am y llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu (Yny Lhyvyr Hwnn, 1546) ac ef oedd perchennog Llyfr Du Caerfyrddin yn fuan ar ôl diddymiad y mynachlogydd.

Image caption Gruffudd Antur: 'Mae dod o hyd i bethau newydd, cyffrous fel hyn yn calonogi dyn'

Yn ôl Gruffudd Antur mae'n llawysgrif ddigon diolwg ac mae'n hawdd "credu ei bod wedi llechu'n ddisylw yn yr un cartref ers canrifoedd".

Dywedodd: "Dwi'n gobeithio y bydd llawysgrif Northampton yn taflu goleuni newydd ar Siôn Prys fel gŵr sy'n pontio rhwng sawl gwahanol fyd - rhwng y traddodiad llawysgrifol ar y naill law a byd newydd y wasg argraffu ar y llaw arall, a hefyd rhwng y beirdd a dysgedigion Lloegr.

"Dyma lawysgrif sy'n cynnig pob math o wybodaeth newydd am y ffynonellau llawysgrif a llafar oedd ar gael - a'r berthynas agos rhwng dyneiddwyr fel Siôn Prys a beirdd fel Ieuan ap Huw Cae Llwyd, Gruffudd Hiraethog a Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan."

'Calonogi dyn'

Ychwanega Mr Antur bod y testunau sydd yn y llawysgrif hefyd yn ddiddorol am nad oes neb wedi'u gweld o'r blaen ac maent yn taflu goleuni newydd ar feirdd fel Maredudd ap Rhys.

"Ond yr hyn sy'n fwyaf difyr yw cyd-destun y testunau - mae'r rhain yn hynod werthfawr.

"Mae dod o hyd i bethau newydd, cyffrous fel hyn yn calonogi dyn," meddai.

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Image caption Bydd llawysgrifau fel yr un yma yn cael eu harddangos yn y gwaith newydd

Mae cyhoeddi'r cyfrolau yn brosiect rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol.

Yn ogystal â rhoi manylion am y llawysgrifau bydd y cyfrolau hefyd yn rhoi gwybodaeth am yr ysgrifwyr ac yn cyflwyno delweddau o'r llawysgrifau.

Mae disgwyl i'r cyfrolau gael eu cyhoeddi ym mis Medi 2020.

Pynciau Cysylltiedig