Dos yn dy ôl i faes y gad

Un o'r problemau ar gychwyn ymgyrch etholiad eleni oedd ceisio dyfalu lle'r oedd maes y gad. Doedd y pleidiau ddim yn sicr iawn lle i ddanfon eu trŵps ac roeddem ni yn y cyfryngau yn crafu'n pennau ynghylch lleoliad yr unedau allanol ar noson fawr y cyfri.

Gyda llai na phythefnos i fynd mae'n ymddangos bod maes y gad yn culhau a'n bod bellach yn gallu canolbwyntio ar y nifer cyfyngedig o etholaethau yng Nghymru fydd yn cyfri yn oriau man Rhagfyr 13eg.

Rhan a'r rheswm am y culhau yw methiant Plaid Bregsit a'r Democratiaid Rhyddfrydol i daro tant etholiadol.

Dair wythnos yn ôl roeddwn i'n fodlon ystyried y gallasai ambell i sedd idiosyncratig yn y cymoedd, Blaenau Gwent neu ei thebyg efallai, gofleidio Plaid Nigel Farage. Rwy'n meddwl bod y posibilrwydd hwnnw mwy neu lai wedi diflannu erbyn hyn.

Dyw'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim wedi gwanhau i'r un graddau a'r Bregsitwyr. Yn wir mi fentraf y bydd eu pleidlais eleni yn uwch nac oedd hi ddwy flynedd yn ôl. Mae p'un ai a fydd hynny yn ddigon i'r blaid ennill sedd neu seddi yng Nghymru yn fater arall.

Mae Jane Dodds yn gweithio talcen caled iawn wrth geisio cadw Brycheiniog a Maesyfed heb bresenoldeb Plaid Bregsit i rannu pleidleisiau'r maswyr a gallasai'r un ffactor cyfri yn eu herbyn ym Maldwyn.

Rwy'n clywed hefyd bod Plaid Cymru'n teimlo'n 'fwyfwy cysurus' yng Ngheredigion.

Mae hyn oll yn golygu ei bod yn edrych ar restr gyfarwydd iawn o seddi ymylol Ynys Môn, Dyffryn Clwyd, Gogledd Caerdydd a'u tebyg. Gwnâi ddim eu henwi nhw i gyd. Rydych chi'r darllenwyr yn ddigon cyfarwydd â nhw!

Mae hi yn ddiddorol ar y llaw arall bod y Ceidwadwyr yn dal i foddi ambell i etholaeth sydd ar ffiniau eithaf eu gobeithion a thaflenni. Mae Pen-y-bont yn un o'r rheiny gyda Carwyn Jones yn tynnu coes trwy ddweud ei fod yn teimlo fel pleidleisiwr targed!

Nawr mae 'na bron i bythefnos i fynd ac mae'r cyfan uchod yn seiliedig ar argraffiadau ac oes o brofiad yn hytrach nac unrhyw wybodaeth gudd ond rwyf yn teimlo bod y niwl yn dechrau clirio. Diolch byth am hynny!