Cynulliad: Pasio deddf i roi'r hawl i bleidleisio yn 16

pleidlais Image copyright Getty Images
Image caption Yn 1969 fe ostyngodd oedran pleidleisio ar draws y DU o 21 i 18 oed

Mae Aelodau Cynulliad wedi pasio deddf fydd yn rhoi'r bleidlais i bobl 16 oed erbyn yr etholiadau Cynulliad nesaf.

Roedd yn rhaid i 40 o'r 60 AC gytuno er mwyn i'r ddeddf ddod i rym, ac roedd 41 o aelodau o blaid y mesur ddydd Mercher.

Bydd hyn yn ychwanegu 70,000 i'r gofrestr etholiadol - yr estyniad mwyaf o ran pwy sy'n cael pleidleisio yng Nghymru mewn 50 mlynedd.

Mae'r mesur hefyd yn rhoi enw dwyieithog i'r Cynulliad - Senedd Cymru a Welsh Parliament.

Bydd preswylwyr tramor yng Nghymru hefyd yn cael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd o dan y drefn newydd, fydd yn ychwanegu 33,000 arall at y gofrestr.

Roedd Llafur a Phlaid Cymru yn cefnogi'r mesur, tra bo'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn ei wrthwynebu.

Cafodd y mesur ei basio gyda chefnogaeth y Llywydd, Elin Jones a'i dirprwy, Ann Jones, sydd ddim yn pleidleisio fel arfer.

Image copyright Getty Images
Image caption Aelodau o'r Senedd fydd teitl aelodau pan fydd y ddeddf yn dod i rym

Cafodd cynnig i sicrhau enw uniaith Gymraeg i'r Senedd ei wrthod gan ACau yn gynharach yn y mis.

Bydd aelodau'n cael eu galw yn Aelodau o'r Senedd (Members of the Senedd) pan fydd teitl newydd y Cynulliad yn dod i rym yn swyddogol.

Fe fydd y mesur yn dod yn ddeddf ym mis Ionawr, gyda phobl 16 a 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yng Nghymru yn etholiadau'r Senedd yn 2021.

Rhoddodd Deddf Cymru 2017 bwerau newydd i'r Cynulliad dros drethi, trafnidiaeth, ynni a threfnu etholiadau.

Dywedodd Elin Jones fod y mesur yn "creu Senedd sy'n fwy cynhwysol, amrywiol ac effeithiol".

"Roedd hon yn bleidlais i rymuso ein pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed - cam hir ddisgwyliedig i lawer," meddai.

Ychwanegodd y Llywydd, sy'n AC Plaid Cymru, bod ganddi hawl i bleidleisio ar faterion sydd angen cefnogaeth dwy rhan o dair o ACau er mwyn pasio.

"Nid gwleidyddiaeth bleidiol bywyd pob dydd yn y Senedd yw hyn - roedd hyn am ddyfodol ein democratiaeth a dyfodol ein Senedd... ac mae hawl i bob aelod daro pleidlais ar ddyfodol ein Senedd," meddai.

'System hurt'

Dywedodd cyn-arweinydd y grŵp Ceidwadol, Andrew RT Davies bod rhoi'r bleidlais i breswylwyr tramor yn dacteg gan y "sefydliad gwleidyddol adain chwith".

Ychwanegodd bod y system etholiadol yng Nghymru bellach yn "hurt", a bod y mesur wedi'i basio "heb ganiatâd gan y cyhoedd".

Yn ôl AC Plaid Brexit, Mark Reckless, mae'r ffaith fod y Llywydd wedi pleidleisio yn "dangos ei bias".

Dywedodd AC Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod y ddeddfwriaeth yn "garreg filltir bwysig", er fod y blaid yn siomedig ynglŷn â'r penderfyniad i beidio â chael enw Cymraeg yn unig.

Straeon perthnasol