Pryder am 'ddiffyg adnoddau Cymraeg' i blant â dyslecsia

Iona
Image caption Mae dyslecsia yn effeithio ar tua 10% o'r boblogaeth yng Nghymru

Nid yw'r adnoddau Cymraeg sydd ar gael mewn ysgolion i blant sydd â dyslecsia yn ddigonol, yn ôl arbenigwr.

Mae Dr Rhiannon Packer o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn dymuno gweld rhagor o gefnogaeth i bobl ifanc â dyslecsia sy'n siarad Cymraeg.

Dywedodd mam i ferch sydd â'r cyflwr wrth BBC Cymru bod yr adnoddau sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg yn annigonol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae cefnogaeth yn cael ei ddarparu i ysgolion er mwyn diwallu anghenion addysgol dysgwr sydd â dyslecsia, ac mae dyletswydd i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

Image caption Dywedodd Dr Rhiannon Packer mai "prin iawn" yw adnoddau Cymraeg

"Mae 'na ddiffyg adnoddau. Mae hwnna'n bendant," meddai Dr Packer.

"Mae 'na adnoddau ar gael yn y Gymraeg ond prin iawn ydyn nhw. Does dim lot o ddewis.

"Fi'n gwybod am ysgolion uwchradd lle mae 'na dîm penodol o athrawon sydd wedi cymhwyso i gynorthwyo plant sydd â dyslecsia, ond prin iawn yw rhai 'na byswn i'n tybio."

Cyflwr dysgu yw dyslecsia, ac mae'n effeithio ar tua 10% o'r boblogaeth yng Nghymru, yn ôl corff Dyslecsia Cymru.

Mae'r rheiny sydd â'r cyflwr yn gallu cael problemau darllen, ysgrifennu a sillafu.

Image caption Mae Iona wedi profi diffyg hyder yn yr ysgol o ganlyniad i'w dyslecsia

Mae Iona yn wyth oed ac o Benarth, Bro Morgannwg.

Dywedodd ei mam ei bod yn ferch hapus, ond ei bod wedi profi diffyg hyder yn yr ysgol o ganlyniad i'w dyslecsia.

"Mae dyslecsia yn meddwl bo' fi'n ffeindio pethau'n anodd ond mae rhai pethau yn haws," meddai Iona.

"Mae lliwio yn hawdd gwneud ond mae gwaith yn anodd."

'Tynnu plant o addysg Gymraeg'

Yn ôl ei mam, Haf Weighton, nid yw'r cymorth arbenigol a'r adnoddau sydd ar gael i blant dwyieithog gyda dyslecsia yn ddigonol.

"Mae'r ysgolion yn trio rhoi cymaint o gymorth maen nhw'n gallu ond dyw e jest byth yn ddigon," meddai.

"Mae lot o'r adnoddau mae Iona yn eu defnyddio - ar-lein a llyfrau - yn bethau Saesneg.

"Does dim lot ar gael o gwbl yn Gymraeg.

"Beth fi 'di sylweddoli hefyd yw bod rhai rhieni yn cymryd eu plant allan o addysg Gymraeg achos maen nhw'n poeni."

Image caption Dywedodd Carole Bradley bod cynnig cefnogaeth ddwyieithog i blant â dyslecsia yn hanfodol

Unwaith yr wythnos mae Iona yn mynychu canolfan arbenigol yng Nghaerdydd i blant gyda dyslecsia, o'r enw Tomorrow's Generation.

Yn ôl Carole Bradley, un o'r athrawon yno, mae cynnig cefnogaeth arbenigol ddwyieithog i blant gyda dyslecsia yn hanfodol.

"Yn anffodus, does dim arian gyda ni o'r llywodraeth," meddai.

"Mae gyda ni llawer o bobl sy'n gweithio'n galed iawn i godi arian ac mae rhieni yn gorfod talu ychydig o arian hefyd.

"Mae prinder arian yn arwain at brinder staff i wneud y gwaith ychwanegol sydd angen ar y plant pan maen nhw yn eu hysgolion."

'Cyfle i hyfforddi athrawon'

Gyda chwricwlwm newydd yn cael ei roi ar waith yng Nghymru yn 2022, mae 'na gyfle yn ôl Dr Packer i wella sut mae athrawon yn addysgu disgyblion sydd â dyslecsia.

"Efallai bod cyfle i hyfforddi athrawon a thynnu sylw at y ffaith bod 'na blant sydd ag anghenion arbennig yn ein dosbarthiadau ni yng Nghymru a bod angen gwybod sut yw cynorthwyo nhw yn bwrpasol," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod adnoddau a deunyddiau wedi'u darparu ar gyfer ysgolion i'w helpu i ddiwallu anghenion addysgol dysgwr gyda dyslecsia.

Maen nhw hefyd yn nodi fod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i ddarparu addysg addas i bob dysgwr, ac y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal o ran cyflawni gwersi.

Straeon perthnasol