Plant o Gymru'n ser hysbyseb Nadolig
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Plant ysgol o Gymru'n serennu yn hysbyseb Nadolig M&S

21 Tachwedd 2019 Diweddarwyd 17:24 GMT

Bydd criw o blant o ysgol yng Nghymru yn dod yn wynebau cyfarwydd ar y teledu dros y Nadolig wedi iddyn nhw gael eu dewis fel sêr hysbyseb deledu M&S.

Cafodd disgyblion Ysgol Llwyncelyn ym Mhorth, Rhondda Cynon Taf eu dewis i ganu fersiwn Nadoligaidd o drac 'Albatross' Fleetwood Mac - ac mae'n amlwg eu bod nhw wedi mwynhau'r profiad.